Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd rhan o ffordd y B4337 sef Rhiw San Pedr yn Llanybydder ar gau yfory. Ni chaniateir i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn ffordd o’r sgwâr sef y gyffordd â’r A485 Llanybydder am bellter o 62 metr i gyfeiriad y gorllewin.
“Mae angen cau’r ffordd er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud gwaith atgyweirio ar y ffordd gerbydau ddydd Mercher 7 Awst 2024.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin fydd parhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd yr A485 Llanybydder, hyd at y gyffordd â’r A482 Cwm-ann. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r gogledd-orllewin ar hyd yr A482 Cwm-ann, hyd at y gyffordd â’r A475. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r gogledd-orllewin, ac wedyn y de-orllewin, ar hyd yr A475 hyd at y gyffordd â’r B4337 Llanybydder. Wrth y gyffordd, troi i’r chwith a theithio tua’r de-orllewin, ac wedyn y de-ddwyrain ar hyd y B4337 Llanybydder i ddychwelyd i fan sydd i’r gorllewin o’r man lle mae’r ffordd ar gau.
Lle bo’n bosibl caniateir i gerddwyr gael mynediad i eiddo unigol drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.”
Yn wreiddiol bwriadwyd i’r ffordd gau ar ddydd Llun, ond yn dilyn cwynion y byddai hynny’n amharu’n fawr ar fasnachu yn y Mart yn Llanybydder y diwrnod hwnnw, llwyddodd y cynghorydd lleol i newid y dyddiad. Serch hynny, bydd cau’r ffordd dal yn rhwystr i breswylwyr a masnachwyr Llanybydder ynghyd â theithwyr.
Cyhoeddodd cwmni First Cymru,
RHYBUDD GWASANAETH – T1/T1A
Trwy’r dydd oherwydd cau ffordd yn Llanybydder
ar 07/08
Ni fydd gwasanaethau rhwng Llanybydder – Alltyblaca – Llanwnnen – Llanbedr Pont Steffan ac i’r gwrthwyneb.
Bydd dargyfeirio trwy Pencarreg.
Cyhoeddodd Caryl Evans o gwmni Roy Thomas,
“Bydd yr hewl yn Llanybydder ar gau fory, o’r sgwâr gwaelod lan i sgwâr top! Byddwn ni dal ar agor yn y gwaith 8.30 – 5.00, cofiwch rhoi ring os fyddwch chi’n methu a’n cyrraedd ni.”