Ar y 16eg a 17eg o Awst bydd Heledd Jenkins o Lanwnnen yn cerdded 44 filltir o Brifysgol Loughborough i Stadiwm Cinch yn Gerddi Franklin, Northampton ar gyfer elusen Northampton Saints Foundation, sef elusen y tîm rygbi Northampton Saints. Ar ôl cerdded bydd hi wedyn yn abseilio 418 troedfedd i lawr y twr abseilio uchaf y byd.
Mae’r Northampton Saints Foundation yn elusen sydd yn gwneud llawer o bethau yn cynnwys rhaglen addysg sydd yn helpu bron 7,000 o bobl dros 37 wahanol leoliad mewn blwyddyn a rhaglen i helpu carcharorion. Daeth Heledd ar draws yr elusen pan wnaeth hi flwyddyn lleoliad efo nhw trwy Brifysgol Loughborough.
“Tra ar leoliad yn y brifysgol fe wnes i wirfoddoli i’r elusen am flwyddyn fel swyddog addysg yn cyflwyno chwaraeon ymarferol a sesiynau dosbarth yn seiliedig ar werthoedd rygbi. Gwnes i weithio dros amryw o ysgolion cynradd, uwchradd, anghenion arbennig a phroblemau ymddygiad.”
Ym mis Medi bydd Heledd yn mynd yn ôl i weithio i un o’r ysgolion wnaeth hi wirfoddoli drwy’r elusen.
“Mae angen dros hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn ar gyfer yr elusen i gynnal a darparu ei rhaglenni felly rydw i eisiau cyfrannu at yr arian yma a chyfrannu at elusen sydd yn gwneud gwaith mor bwysig.”
Gôl ariannol Heledd yw codi £4000 gan dyna faint sydd angen i ariannu addysg 4 o blant trwy’r elusen.
Nid yw teithiau cerdded ar gyfer codi arian ddim yn ddieithr i Heledd gan fod ei thad, Huw Jenkins, wedi gwneud mwy nag un daith cerdded yn cynnwys cerdded o gwmpas Ynys Wyth ar gyfer Cancer Research UK y flwyddyn ddiwethaf.
“Gwnaeth y flwyddyn a dreuliais gyda’r Northampton Saints Foundation newid fy mywyd ac rydw i mor angerddol am sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle gorau i lwyddo. Rydw i’n yn edrych ymlaen i helpu gyda’r daith gerdded ac abseilio yma.”