Chopsan ar y cae rygbi

Rhian Thomas sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau Papur Bro Clonc mis Tachwedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_3044

Rhian Thomas o Bumsaint sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau Papur Bro Clonc mis Tachwedd.

Mae Rhian wrth ei bodd yn chwarae bob math o gampau yn enwedig Rygbi, Hoci a Phêl-droed ac yn gweithio yn W D Lewis a’i fab, Llanbed.

Dyma flas o’i hymatebion:

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Pan oedd Alun yn dysgu i fi ddriefo’r hen pick up a biti bwrw pilar ar y yard, wedd e ddim yn hapus!

Pryd a ble wyt ti mwyaf hapus?
Lan yng nghaeau top Rhydlydan gyda’r cŵn yn gwylio’r machlud neu ar gae rygbi.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Dafad Pedigree, yn joio cal ei bwydo trwy’r amser a chael triniaeth arbennig.

Beth yw dy arbenigedd?
Whare rygbi neu chopsan ar y cae rygbi y mwyafrif o’r amser.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Gwitho gyda Moc Lewis, lot fwy o siarad na gwaith yn mynd ymlaen.

Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?
Bos fi yw Moc Lewis a mae e’n grumpy ar fore dydd Llun gyda hangover gan amla.

Sut fyddet ti’n gwario £10,000 mewn awr?
Yn hawdd, mynd i mart Llanybydder a phrynu llawer o ddefaid Dutch Spotted!

Beth yw dy hoff arogl?
Formaline yn footbath y defaid.

Gyda phwy fyddet ti’n hoffi bod yn sownd ar ynys anghysbell? Elen “Gog” Felindre – mae lot fwy sensible na fi i ddelio ’da bod ar goll!

Gallwch ddysgu mwy am Rhian drwy brynu rhifyn diweddaraf Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol ar y we.

Dweud eich dweud