Cloncan : Ymateba John Phillips

John Phillips, cyn-Brif Weithredwr Dyfed yn ymateb i gynlluniau i adleoli Llyfrgell Llanbed

gan Ifan Meredith

John Phillips o Lanbed yw’r ail i ymddangos yng nghyfres ‘Cloncan’ ac mae ef yn ymateb i gynlluniau Cyngor Sir Ceredigion i adleoli Llyfrgell y dref.

John Phillips yw cyn-Gyfarwyddwr Addysg Sir Aberteifi a Phrif Weithredwr Dyfed.  Credodd yn gryf dros y blynyddoedd na ddylai ymyryd yng ngwaith swyddogion y sir wedi iddo ymddeol.  Ond nawr ei fod wedi croesi 90 oed, ni all beidio ymateb i rywbeth fel sy’n ei wylltio cymaint.

Cofia gydweithio â Llyfrgellydd y Sir ar y pryd, sef dyn mor arloesol ag Alun R Edwards i agor Llyfrgell bwrpasol yng nghanol tref Llanbed.  Gwyliwch y cyfweliad fideo arbennig hwn.