Codi arian wrth ddathlu pen-blwydd

Y lle dan ei sang a chefnogi Diabetes UK, Sefydliad y Galon, Target Ovarian Cancer a Kidney Research

Meinir Evans
gan Meinir Evans
f654e753-4a1a-460e-8915
bea49695-e1cf-410b-b8d4
0f484565-c39d-4b9c-b6ef
cf080a5f-bbd0-4c0d-9e38
927f3983-b193-4eaf-b6a7
7eef1d1d-165f-46c8-b6db
61da6f7a-e910-47e1-b061

Diolch, diolch a diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi cyfrannu mor hael ar achlysur fy mhen-blwydd yn 50. Roeddwn wedi gobeithio codi tua £1,000 ond bois bach erbyn hyn mae’r cyfanswm wedi dringo dros £4,500 ac mae cyfraniadau’n dal i ddod i law.

Fi’n cofio cael gwahoddiad i barti pen-blwydd y diweddar Dafydd WD yn 30 a’r neges oedd ei fod yn casglu arian at elusen yn hytrach na derbyn anrhegion. Rwy’n cofio meddwl ar y pryd i fod e off i ben! Pwy fydde’n gwrthod llond tŷ o anrhegion bach neis? Ond erbyn cyrraedd yr oedran arbennig yma, rwy’n deall yn iawn.

Felly, o ddilyn esiampl Dafydd, mae arian anrhydeddus wedi ei godi. Bydde fe wedi joio mas draw.

Wedi neud y penderfyniad i gynnal parti, roedd hi’n anodd iawn i fi ddewis un elusen ac o gofio’n ergydion diweddar ni yng Nghwmann dros y flywddyn diwethaf, dyma fi’n penderfynu cefnogi Diabetes Uk, gan mai dyna godwyd i gofio am Dafydd, British Heart wedi colli Aled Ram, Target Ovarian Cancer wedi colli Mamgu, Dinnie Ffosyffin ac wrth gwrs Kidney Research gan fod Jen (Pensietyn gynt), fy ffrind yn derbyn dialysis dyddiol ers 30ain o flynyddoedd.

Wedi penderfynu ar yr elusennau rhaid oedd cyhoeddi i’r teulu beth oedd fy mwriad – cynnal parti i godi arian a pharatoi’r bwyd ein hunain! Whare teg i Mam, nath hi dderbyn y peth yn ddigon hamddenol a dyma ddechrau ar y dasg o borthi’r pum mil.

Diolch Mam – ti’n seren! Heb anghofio’r teulu cyfan, yn helpu i weini’r bwyd.  Buodd Dad hyd yn oed yn rhannu’r cig. Jobyn Meleri, Geraint a Dyfed oedd dosbarthu’r pwdins. Gobeithio i bawb cael un.  Roedd hi’n anodd i wybod faint yn gywir i baratoi.

Diolch anferthol i aelodau Clwb Cwmann am eu parodrwydd i helpu osod y neuadd. Gweddnewidiwyd y neuadd gyda chyffyrddiadau bach pert a bu nifer ohonynt yn ymarfer eu sgiliau gosod blodau neu frigau!

Y cyfan weda i – daeth tipyn bach! Pan roedd pawb yn heidio drwy’r drws marce 7 roedd hi’n her i chwilio am gadair i bawb.

Codwyd Dros £1,000 yn yr  Ocsiwn a diolch i’r canlynol am eu haelioni gan gynnig eitemau i’w gwerthu: Megan a Shaun, Oriel Jones, Tina a Mark, Trysor, Sian a Heini, Glanhelen, Alun ac Eifion, Crown Stores gynt, Menna Morgan o gwmni Ceirios Cymru, Andrew a Paula Carter, John a June James, W D Lewis a’i fab, Gwilym Price ei fab a’i ferched, Delyth Ffosyffin ac Andrew Bayliau.

Diolch i’n harwerthwr anrhydeddig- Geraint Islwyn ac i bawb a dwriodd yn ddwfn i’w pocedi i brynu.

Diolch i Lloyd, Eiddwen a Simon Carpets am baratoi’r mochyn- blasus tu hwnt.

Diolch hefyd i Sioned a Matt am y disgo – digon o ddawnsio gwyllt a’r hen ffefrynnau’n atseinio tan yr oriau mân.

Os oes gyda chi lunie, gallwch chi hala nhw draw plis?

Cafwyd noson llawn hwyl, hel atgofion, bwyta a dawnsio. Roedd hi mor braf i weld ffrindie, teulu, a chymdogion, ymddiheuriadau os na ges i sgwrs gyda chi bob un. Roedd Neuadd Sant Iago dan ei sang a phawb wedi joio mas draw.

Cofiwch mae’r coffre dal ar agor am ychydig eto felly os golloch chi mas, mae croeso i chi gyfrannu.

Diolch, Meinir

Dweud eich dweud