Cofio Irene Williams, Cae’r Nant

Samariad a ddangosodd egni, brwdfrydedd a chefnogaeth dros achosion lleol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IRENE

Ar ddiwedd Ionawr eleni, bu farw Irene Williams yn 102 oed.  Bu hi a’i gŵr, yr athro Cyril Williams yn byw yng Nghwmann am flynyddoedd ac mae gan lawer iawn o bobl atgofion melys ohoni a’i brwdfrydedd heintus dros gefnogi achosion da.

Ym mis Mai 2002, cyhoeddodd Twynog Davies bortread ohoni yn ei golofn Cymeriadau Bro ym Mhapur Bro Clonc.

“Fel y gwyddom, bu Irene yn Gadeirydd Cangen Llambed ers tua deunaw mlynedd, ac yn ôl ei thyb hi, mae’r gangen leol yma yn batrwm i ardaloedd eraill ei hefelychu.  Yn ôl yr amcangyfrif, mae’r gangen leol wedi codi dros £50,000 i Gymorth Cristnogol gyda 87.5% o’r hyn a godwyd yn mynd yn uniongyrchol i helpu’r trydydd byd.  Mae’n ddyledus iawn i drigolion yr ardal am eu haelioni.

Mae teithio wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Irene.  Cafodd y cyfle i fynd i sawl gwlad yn sgil diddordebau ei phriod, sydd yn cael ei gydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf ein Cenedl ar wahanol Grefyddau’r Byd.  Bu yna gyfle i fynd i’r Unol Daleithiau, Ewrop, Thailand, India, China, Korea, Japan, Israel, De Affrica, Jordan, Syria a Rwsia.  Mae’r byd yn gymharol fach i Irene!  Bu rhai o’r teithiau er hynny yn ymwneud â’r ffaith ei bod yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig ac mi gafodd gwmni y diweddar Myriel Davies ar sawl achlysur.  Cafodd y fraint ddwy waith o gyfarfod yr Archesgob Desmond Tutu yn ardal Soweto, a thra yr oedd Desmond Tutu ar ymweliad â Chymru, derbyniodd oddi wrth Irene, Groes Geltaidd o waith ‘Rhiannon’ o Dregaron.

Bu llawer o’r teithiau hefyd yn ymwneud â’i gwaith o dan faner Cymorth Cristnogol, ac mi welodd dros ei hun brosiect yn yr India lle defnyddiwyd yr arian i greu fferm ddŵr i helpu trigolion lleol i dyfu cnydau.

Heblaw am ei gwaith gyda Chymorth Cristnogol, mae hefyd yn gadeirydd lleol o Amnest Rhyngwladol.  Cofiwn hefyd am ei gwaith gyda TFSR (Tools for self reliance) – cymdeithas leol a sefydlwyd i addasu hen offer fferm mewn gweithdy yn Nolaugwyrddion, Pentrebach, trwy garedigrwydd David Williams.

Teimlodd ers peth amser bellach ei bod wedi colli cyfle i fynychu Addysg Uwch oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Roedd yr awydd a’r her yn aros er hynny.  Ym 1988, tra yn ei saithdegau cynnar, dyma benderfynu dilyn Cwrs Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed a graddio gydag Anrhydedd 2:1 ar ôl tair blynedd. Ond nid oedd hyn yn ddigon.  Aeth ymlaen i wneud ymchwil ar y testun ”Heddychiaeth yng Nghwm Gwendraeth 1939-46” ac enillodd radd uwch M. Phil am y gwaith pwysig yma.

Erbyn hyn mae Irene wedi cyrraedd 80 oed ond ni fuasai neb yn credu hynny.  Mae rhyw egni rhyfeddol yn perthyn iddi.  Un o’r pleserau mwyaf a ddaeth i’w rhan yn y gorffennol oedd cael croesawu myfyrwyr tramor i Gae’r Nant ac mae llawer ohonynt yn dal i gysylltu.  Nid yw rhaniadau crefydd yn golygu dim i Irene – mae yn gyfle i ddod i adnabod ffordd ein gilydd a’n hatgoffa ein bod ni gyd yn frodyr yng Nghrist.

Er bod Irene yn weithgar ei hun, mae ganddi’r ffordd unigryw hefyd o gael eraill i weithio wrth ei hochr. (Tra yng Nghaerdydd llwyddodd i gael benthyg carafan Julian Hodge i helpu i gasglu arian).  Mae’n aelod brwdfrydig o Blaid Cymru a Chapel Soar ac yn gefnogol o waith Cytun er mwyn cael mwy o gydweithio rhwng yr Eglwysi.  Pan fydd yna amser prin i ymlacio, mae wrth ei bodd yn darllen neu yn garddio.”

Roedd hi’n fam i Martyn ac Eirian a’r diweddar Ann, mam-gu a hen fam-gu serchog a chariadus.  Cynhelir angladd hollol breifat, ond gellir cyfrannu pe dymunir tuag at Lyfrau Llafar Cymru.