Cofio Ken Gas

Un o gymeriadau amlycaf Llanbed wedi marw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0681

Bu farw Ken Gas, neu Ken Richards ar ddiwedd Ionawr yn 73 oed.  Ef oedd y peiriannydd nwy adnabyddus o Lanbed na wyddai llawer o bobl beth oedd ei gyfenw go iawn.

Ganwyd ef yn Silian a chyfarfu â’i wraig Elvira yn Ysgol Llanbed.  Gwnaeth ei brentisiaeth yng Ngholeg Llanbed ond bu yn gweithio gyda’r Bwrdd Nwy yn Llanbed am flynyddoedd cyn sefydlu busnes ar ei liwt ei hunan a pharhau i wasanaethu’r ardal am 23 blynedd arall.

Rhwng gweithio gyda’r Bwrdd Nwy a wedi hynny ar ei ben ei hunan, Ken sydd wedi gosod systemau gwresogi canolog nwy yn rhan fwyaf o gartrefi’r dref.  Ef oedd Ken Gas, ac roedd pawb yn ei adnabod fel hynny.

Roedd yn gymeriad llawn bywyd ond diffuant, ac wastad yn gwneud pobl i wenu.  Cyfaddefodd ei hunan serch hynny, nad oedd wedi sylweddoli bod rywun wedi ei dwyllo ef ar gamera pan ddaeth rhaglen y Brodyr Bach i’w gartref ym Mryn yr Eglwys a’i ddala fe mas rhai blynyddoedd yn ôl.

Ralïo a beicio mynydd oedd ei ddiddordebau, ac roedd Ken yn un o griw o fechgyn a ail sefydlodd Clwb Moduro Llanbed.  Yn y blynyddoedd diweddar bu yn cefnogi ei ŵyr fel noddwr pêl-droed hefyd.

Mae’n gadael gwraig, mab, merch yng nghyfraith ac wyron.  Cynhelir angladd gyhoeddus yn Amlosgfa Aberystwyth ar ddydd Gwener 9fed Chwefror a bydd y cynghebrwng yn gadael Gorwel, Llanbed am 12 o’r gloch pe hoffai pobl dalu teyrnged iddo.