Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dewis llysgennad Ysgol Bro Pedr

Beca Lewis yn cael ei dewis fel llysgennad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Bro Pedr.

gan Ifan Meredith
IMG_2093-copyColeg Cymraeg Cenedlaethol

Yn gynharach heddiw cyhoeddodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eu Llysgenhadon Ysgol am y flwyddyn nesaf. Mae’r llysgenhadon yn ddisgyblion chweched dosbarth ledled Cymru, gan gynnwys un ohonynt yn Ysgol Bro Pedr sef Beca Fflur.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliad sy’n gwobrwyo myfyrwyr am astudio cyrsiau prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg wrth roi hyd at £1,000 y flwyddyn i fyfyrwyr.

Mae Beca yn ymuno â thîm o 29 o lysgenhadon ar draws ysgolion Cymru.

Mae’r tîm o lysgenhadon wedi eu penodi i hybu a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Llwyddodd Beca i gael ei dewis yn un o Brif Swyddogion Ysgol Bro Pedr cyn gwyliau’r haf ac mae’n ddisgybl gweithgar gan ei bod aelod o Fforwm Cymreictod yr ysgol sydd yn rhedeg Radio Bro Pedr ac yn rhan o sioe Addams Family yr ysgol fydd yn cael ei pherfformio ym mis Rhagfyr.

“methu aros am y cyfleoedd sydd i ddod yn y flwyddyn nesaf”

Wrth siarad â Clonc360 dywedodd Beca ei bod yn “blês o gael ei dewis” fel un o’r llysgenhadon a’i bod yn “edrych ’mlaen i gydweithio gyda’r 28 llysgennad arall ar hyd a lled Cymru”.

O ran ei rôl fel llysgennad, esboniodd y byddai yn gwneud hysbysfwrdd yn yr ysgol i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn cynllunio gwasanaeth i rannu gwybodaeth. Mae hefyd yn edrych ’mlaen i “ysgrifennu blog am faterion Cymreig” ac i ddefnyddio gwefannau cymdeithasol i “hybu a rhannu gwybodaeth”. Wrth gydweithio, edrycha Beca ymlaen at weithio mewn digwyddiadau fel Tafwyl ac Eisteddfodau.

“cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol”

Y peth pwysicaf yn ôl Beca yw i “wneud ffrindiau oes” yn ei rôl dros y flwyddyn nesaf wrth iddi “ychwanegu profiad arall i’w CV”.

Dweud eich dweud