On’d yw amser yn hedfan? Mae rhagbrawf un o gystadlaethau mawr Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, ar y gorwel … er taw ym mis Awst mae’r Eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal!
Yn dilyn llwyddiant arbrawf llynedd, cynhelir rhagbrawf Llais Llwyfan Llanbed ym mis Mehefin. Mae dyddiad cau ar gyfer cofrestru ddydd Llun yma, sef 10 Mehefin – cysylltwch â Delyth yr ysgrifennydd cerdd i gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth.
Rhys Meirion a Bethan Dudley Fryar yw’r ddau enw mawr fydd yn beirniadu eleni. Ac fel arfer, bydd Rhiannon Pritchard yn gyfeilydd heb ei hail i gefnogi’r unawdwyr.
Felly, os ydych chi chwant cystadlu am £2,000 a thlws enwog Llais Llwyfan Llanbed, beth sydd ’da chi i’w golli? Cysylltwch! Pob hwyl i bawb gyda’r ymarfer a’r paratoi.