gan
Ifan Meredith
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/02/IMG_6688-640x396.jpeg?0)
Fel cyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Sara Davies yn un o dri wyneb lleol i gael eu dewis i gamu ar lwyfan Cân i Gymru i gystadlu am £5,000.
Mae Sara yn arweinydd i Gôr Pam Lai?, Llanbed ac yn athrawes Cerddoriaeth yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron. Darlledwyd ei chân ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener diwethaf.
Dyma gyfweliad arbennig gyda Sara a chofiwch bleidleisio drosti nos Wener drwy ffonio 09009510107.