Cyhoeddi argymhellion drafft yn ystyried dyfodol ffiniau etholaethol Ceredigion

Mae’r adroddiad yn ailystyried trefniadau gwleidyddol cymunedau Ceredigion.

gan Ifan Meredith
IMG_7517-1

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cynnal adolygiad o ffiniau etholaethol yng nghynghorau cymunedau a chynghorau tref ledled Ceredigion. Yn ôl yr adroddiad sy’n awgrymu cynigion ddrafft, mae’r adolygiad yn cael ei wneud dan Ddeddf Llywodraethiant Leol 2013. Esboniwyd hefyd fod y newidiadau a argymhellir yn unol â pholisi maint Cyngor Sir Ceredigion sydd yn awgrymu dylai fod o leiaf un cynghorydd tref i 600 o etholwyr.

Dywed yr adroddiad, ar hyn o bryd, mae yna 15 o gynghorwyr tref yn cynrychioli 1,731 o etholwyr yn ardal Llanbed. Mae’r newidiadau a argymhellir yn cynnwys newidiad bach i’r ffin etholaethol i ogledd y dref lle fydd darn o dir yn symud o etholaeth Llanbed i Silian. Esboniwyd nad yw’r newid hwn yn cael unrhyw effaith ar niferoedd etholwyr.

Lleihau’r nifer o gynghorwyr ar gyngor tref Llanbed yn “bryder dybryd”.

Mae’r comisiwn wedi cynnig newid y nifer o gynrychiolwyr ar gyngor tref Llanbed i 7, lleihad o 8 cynghorydd tref. Byddai’r newid hwn yn golygu bod yna gynrychiolydd i bob 247 o bobl.

Ar gais am ymateb gan y cyngor tref, esboniwyd bod “angen nifer penodol o Gynghorwyr i fod â’r gallu a’r adnoddau i ymgymryd â gweithredu ei dyletswyddau presennol yn llawn”.

Yn ôl y cyngor tref, fyddai “rhaid ail-strwythuro’r Cyngor Tref” gan fyddai’r newidiadau yn “cynyddu’r pwysau gwaith yn sylweddol ar ysgwyddau’r 7”

Mae newidiadau eraill yn cynnwys newid i gynghorau Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Silian, a Llanwnnen.

Yn bresennol, mae gan Cellan 321 o etholwyr a 5 o gynrychiolwyr ar y cyngor cymuned Cellan a Llanfair Clydogau ac mae gan Llanfair Clydogau 5 o gynghorwyr cymuned ar gyfer 220 o etholwyr. Mae hyn yn gyfanswm o 10 cynghorydd cymuned.

O dan yr argymhellion, mi fydd y nifer o gynghorwyr cymuned yn disgyn i 4- cwymp o 6 cynghorydd.

Yn Llangybi, mae gan 325 o etholwyr 6 o gynrychiolwyr ar gyngor cymuned Llangybi a Silian. Gyda 165 o etholwyr, mae gan Silian 3 o gynrychiolwyr ar y cyngor cymuned hwn. Daw hyn â chyfanswm o 9 cynrychiolydd i’r cyngor cymuned.

Yn ôl yr argymhellion, byddai 4 o gynrychiolwyr ar gyngor cymuned Llangybi a Silian- cwymp o 5.

Dywed yr adroddiad byddai cymunedau Llanddewi Brefi, Llanfair Clydogau a Llangybi, sydd yn cynnwys Cellan a Silian, yn uno dan un gymuned a elwir ‘Llanddewi Brefi’.

Yn gyfredol, mae gan gyngor cymuned Llanwnnen 399 o etholwyr ac 8 o gynghorwyr. Chwarteri byddai’r rhif hwn i 2 gynrychiolydd o Llanwnnen yn unig ar gyngor cymuned byddai’n uno gyda Llanfihangel Ystrad.

“Mae’r cyfnod ymgynghori drafft yn cau ar 13 Mai 2024”

Mewn datganiad, medd Cyngor Sir Ceredigion y bydd yr Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar ôl derbyn ymatebion gan Aelodau’r Cyngor Sir.

Nid yw’r newidiadau i gynrychiolaeth yn siambr Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys ardal Llanbed ond gwelir toriadau yn ardaloedd Blaenrheidiol (-4) a Phontarfynach (-4). Serch hynny, argymhellir cynnydd o 1 cynghorydd sir yn etholaeth Tregaron ac Aberystwyth Morfa a Glais.