Cymanfa Ganu arall yn ardal Llanbed!

Dewch ynghyd brynhawn Sul i Gaersalem, Parc-y-rhos

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

All neb ddweud fod Llanbedr Pont Steffan a’r cylch yn brin o gymanfaoedd canu! Yn ddiweddar, rydym wedi cael oedfa o fawl wedi’i threfnu gan Gerald Morgan yn Shiloh i ddathlu’r Pentecost. Wedyn y Sul diwethaf, cymanfa ganu’r Annibynwyr yn Soar, dan arweiniad Rhiannon Lewis.

A’r Sul hwn, 19 Mai 2024? Cymanfa Ganu arall! Tro’r Bedyddwyr yw hi y tro hwn. Dewch ynghyd i gapel Caersalem, Parc-y-rhos, brynhawn Sul am 4 o’r gloch ar gyfer Cymanfa Ganu Bedyddwyr Cylch Caio a Llanbedr Pont Steffan.

Os nad oes copi o Raglen Cymanfaoedd Canu 2023-24 gyda chi, dewch â chopi o Caneuon Ffydd. Mae’r rhan fwyaf o’r emynau sydd wedi’u dewis yn y llyfr emynau – ac mae’r cwbwl yn emynau cyfarwydd.

Mae plant Ysgol Sul Noddfa wedi bod yn brysur yn dysgu emynau newydd, ac fe fyddan nhw’n cyflwyno’u heitemau â graen – os yw’r ymarferion diweddar yn arwydd o’r hyn sydd i ddod!

Bydd y gwaith (o ran arwain, llywyddu, rhannau arweiniol, chwarae’r organ, ac ati) yn cael ei wneud gan aelodau’r eglwysi Bedyddwyr lleol. Felly dewch ynghyd i gefnogi ac i ganu.

A bydd te yn dilyn y Gymanfa … mae hynny’n bwysig wrth reswm!