gan
Dylan Lewis
Cynhaliwyd Seremoni gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd i anrhydeddu gwirfoddolwyr o eisteddfodau’r de ddoe.
Roedd dwy o ardal Clonc wedi’u henwebu gan bwyllgor Eisteddfod Abergorlech am flynyddoedd o wasanaeth.
Gwobrwywyd Llinos Davies o Lanybydder ac Eryl Jones o Lanbed.
Dywedodd Heulwen Francis, ysgrifennydd Eisteddfod Abergorlech,
“Mae Llinos ac Eryl yn aelodau gwerthfawr iawn ac yn cymryd rhan yn yr eisteddfod ers blynyddoedd mawr. Nhw sy’n gyfrifol am benillion cyfarch y bardd bob blwyddyn. Maen nhw mor dalentog ac yn barod i neud unrhyw beth ni’n gofyn iddyn nhw.”
Arweiniwyd y seremoni gan Angharad Mair a chyflwynwyd y tystysgrifau gan Bill Davies, Is Gadeirydd y Gymdeithas.