Mae’n cymryd lot i hala fi’n grac

Y saer ifanc o Lanllwni sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7ACCE3AB-99D5-4ACB-A594

Alwyn Siôn o Lanllwni sy’n ateb cwestiynau colofn Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.  Saer yw Alwyn yn ôl ei alwedigaeth a dyma flas i chi o’i ymatebion personol a diddorol.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Paentio fan wncwl Chris gyda phaent gloss melyn.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cael fy nhrwser wedi tynnu lawr i fy migyrnau ar fariau gymnasteg (gan Gwion!!)

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Mond i edrych lawr ar rywun os chi’n helpu nhw lan.

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?
Pobl sydd yn dewis peidio gweithio ac yn gallu gweithio.

Sut fyddet ti’n gwario £10,000 mewn awr?
Llenwi ‘potholes’.

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?
Cymryd lot i hala fi’n grac.

Ble oedd y lle mwyaf annisgwyl i ti ddihuno ynddo yn y bore?
Garej Hanna a mhen yn y ‘tumble dryer’.

Pwy sy’n ddylanwad arnat ti nawr?
Ken Gwarallt (Tadcu)

Mae rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc ar werth nawr yn y siopau lleol ac fel tanysgrifiad digidol ar y we.  Mynnwch gopi er mwyn dysgu mwy am gyfrinachau Alwyn Siôn.

Dweud eich dweud