Te Cynhaeaf yng nghwmni’r llenor Siw Jones, Felin-fach

Cymdeithas Ddiwylliadol Capeli Shiloh a Soar, Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_2719-1

(o’r chwith i’r dde) John Davies, Huw Jenkins, Siw Jones, Twynog Davies a Sulwen Morgan

IMG_2714-1

Siw Jones yn annerch yn y Te Cynhaeaf

IMG_2713-1

Twynog Davies yn croesawu a chyflwyno Siw Jones

36adcec0-4509-418f-8f36-1

Huw Jenkins yn cyflwyno’r diolchiadau i Siw Jones

IMG_3061-1

Rhai o’r danteithion blasus ddarparwyd gan Gareth Richards, Goedwig, Llanbed

Adroddiad gan Huw Jenkins.

Cynhaliwyd prynhawn Iau Hydref 17eg yn y Goedwig. Daeth nifer helaeth o’r aelodau at ei gilydd i wrando ar Siw Jones, Dolcoed, Felin-fach yn rhoi sgwrs ddiddorol a mwynhau’r te ardderchog a ddarparwyd gan Gareth Richards.

Croesawyd Siw yn gynnes iawn gan Twynog Davies a dechreuodd ei sgwrs yn cyfeirio at ei chefndir ym mhentref Silian. Soniodd am ddylanwadau ei theulu a’r teuluoedd o’i chwmpas ynghyd â’r rhai a gyfrannodd i’w bywyd cynnar trwy waith yr Ysgol Sul a’r Ffermwyr Ifanc. Cyfeiriodd at yr holl wybodaeth dderbyniodd a’r sgiliau a ddysgodd bryd hynny a fu’n werthfawr iddi drwy’i hoes.

Wedi gadael yr ysgol, aeth i’r Coleg Normal, Bangor gan raddio yn y Gymraeg a Cherddoriaeth. Bu’n dysgu mewn nifer o ysgolion cyn ei phenodi yn Uwch Ddarlithydd yn y Drindod, Caerfyrddin. Yn ddiweddarach ymunodd ag Estyn a chael cyfle i gynghori a gweld gwaith athrawon yn eu hysgolion. Dywedodd fod athroniaeth Estyn wedi newid dros y blynyddoedd. Mae’r pwyslais yn awr ar yr elfen gadarnhaol a bod angen cefnogi cryfderau ysgolion ynghyd â chynnig gwelliannau. ’Roedd yn amlwg bod diddordeb mawr ganddi mewn plant ac yn y bôn fod y system arolygu yno i hyrwyddo profiadau’r disgyblion ifanc.

Yn dilyn ymdrin â’i gwaith, trodd at ei chariad at gerddoriaeth a barddoniaeth. Nododd fod cerddoriaeth yn rhan annatod o’i bywyd a’i bod yn ymddiddori yn y byd barddonol ers yn ifanc. Bu hyn yn llinyn cyson trwy’i bywyd – o ysgrifennu penillion bach yn blentyn ifanc i fod yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin. Ymddiddorai mewn cynghanedd gan weld y ddisgyblaeth yn ennyn cysylltiadau geiriol diddorol a chyfoethog. Ymhyfrydai ei bod yn gysylltiedig â’r to newydd o feirdd yng Nghymru.

I gloi’r sgwrs, cyfeiriodd at ei cherddi ei hunain. Darllenodd ran o’i cherdd i’r Epynt a chlywyd cymalau treiddgar ac effeithiol ganddi. Cyflwynodd hefyd ei chywydd coffa i Mari merch Alun Tegryn Davies, a gollodd ei bywyd yn ifanc iawn. ’Roedd hon yn gerdd gyfoethog, cerdd a enillodd deilyngdod cenedlaethol iddi ac a dderbyniodd wobr arbennig gan Gymdeithas Barddas.

Braf iawn felly oedd cael cwmni Siw a hefyd ei gŵr Dilwyn. Diolchwyd iddi’n hyfryd gan Huw Jenkins wnaeth hefyd ddiolch i Twynog Davies a Sulwen Morgan am drefnu ac i Gareth Richards am yr holl ddanteithion blasus a’r gwasanaeth ardderchog ganddo ef a Nerys Thomas. Cafwyd prynhawn hyfryd i’w drysori.

Dweud eich dweud