Cynllun i godi peilonau rhwng Llanfair Clydogau a Chaerfyrddin

Effaith cyflwyno ynni gwyrdd yng nghefn gwlad Cymru.

gan Ifan Meredith
IMG_6228

Yn dilyn rhag-asediad gan Lywodraeth Cymru, mae Bute Energy wedi lansio cynllun ‘Green GEN Cymru’ ac wrthi’n cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau arfaethedig yn ardaloedd ‘Tywi Teifi’ i adeiladu peilonau a chysylltu ffynonellau ynni gwyrdd â’r grid trydanol.

“nid yw rhwydwaith trydan Dyffryn Teifi yn gallu cysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau”

Cyniga Cynllun Green GEN Cymru linell uwchben newydd 132 cilo-folt er mwyn cysylltu Parc Ynni Lan Fawr ger Llanfair Clydogau â’r isadeiledd trydan. Mae’r cynlluniau arfaethedig yn cysylltu Tyrbinau Gwynt yn y parc ynni yn Llanfair ag is-orsaf newydd yng Nghaerfyrddin.

Cyhoeddir map ar wefan y cwmni yn dangos cynllun arfaethedig y peilonau gan ddilyn llwybr y Teifi yn ardal Clonc o Lanfair Clydogau i Gellan, Cwmann, Parc-y-rhos, Llanybydder a Llanllwni.

Dywed y cwmni mewn dogfen cafwyd ei rannu gan drigolion lleol yr ardal y byddai peilonau dellt dur gydag uchder o 27 medr sydd yn “fyrrach o lawer ac yn llai swmpus na’r peilonau” cynigwyd gan y Grid Cenedlaethol.

Medd Bute Energy byddai peilonau cynllun ‘Green GEN Cymru’ yn cynnig “llai o effeithiau gweledol”.

“difetha ein cefn gwlad, iechyd, lles ac unwaith mae’r difrod yn dechrau, nid oes modd ei ail-wneud”

Serch hynny, bu ymatebion i’r cynlluniau ar grŵp Facebook Llanfair Clydogau yn datgan “nad oes angen y pŵer ar Gymru”.

Yn ôl Martyn King, un o drigolion yr ardal, does “dim o’r cynllun yn buddio Cymru a’n cymunedau”.

“canolbwyntio ar darfu cyn lleied â phosib”

Cred Bute Energy byddai’r cynllun yn cefnogi busnesau ac yn rhoi pwyslais ar y buddion amgylcheddol i’r cynllun wrth annog gwresogi gwyrdd ac yn rhoi isadeiledd ar gyfer mwy o gerbydau trydan yn y cymunedau gwledig.

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan y 6ed o Fawrth ynglyn â’r cynlluniau. Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys sesiynau galw heibio yn Llanllwni, Alltwalis, Caerfyrddin, Cellan, Llanybydder a Pheniel.

https://greengentowyteifi.com/cy/ein-hymgynghoriad/

“deall hyd a lled y gwaith”

Mae’r cynghorydd lleol, Eryl Evans yn galw ar drigolion i “leisio eu barn” a “chyfrannu at yr ymgynghoriad”. Mewn ymateb i’r cynllun, dywed ei bod wedi cysylltu â’r cwmni i “gynnal mwy nag un cyfarfod cyhoeddus o fewn Ceredigion”.