Cynnyrch lleol yn cyrraedd Llundain

Mae cynnyrch ‘Tidy Tea Co.’ wedi llwyddo i gael ei osod ar silffoedd siop Selfidges yn Llundain

gan Ifan Meredith
IMG-20240501-WA0001-1

Mae ‘Tidy Tea Co.’ yn gwmni o Gwmann sy’n gwneud ystod o de gwahanol a sefydlwyd yn 2022 ar ôl plannu hedyn y syniad yn 2020.

“wedi troi yn fwy o brosiect na feddylion ni ar y dechrau!”

Mae’r cwmni wedi llwyddo i gyrraedd yr uchelfannau gan gynnwys ymddangos yn 10 Stryd Downing a bellach mae’r cynhyrchion ar gael i’w prynu yn Selfridges. Esboniodd y cydberchennog, Huw Edwards mai proses hir oedd hi i gael ei ddewis i ymddangos ar silffoedd Selfridges- proses a gymerodd tua 6 mis i gyd.

“gwneud rhywbeth yn wahanol”

Mewn cyfweliad â Clonc360, dywedodd cydberchennog y cwmni, mai ysgogiad y cwmni oedd trawsnewid y fferm mewn ffordd unigryw a ddatblygodd ar ôl sgwrs dros de.

Y cam nesaf i’r cwmni yw i “gynyddu ymwybyddiaeth brand drwy ddigwyddiadau er mwyn ymddangos tu blaen mwy o gwsmeriaid”. Mae’r cwmni eisoes wedi mynd ymlaen i dderbyn enwebiad i wobr ‘Busnes Cychwynnol y Flwyddyn’ yng ngwobrau Bwyd a Diod Cymru a Gwobrau Busnes Sir Gâr.

Mae’r te ar gael yn lleol ym Mar Llaeth Gwarffynnon yn Llanbed ar hyn o bryd ac maent yn edrych i ehangu yn y dyfodol agos.