Oeddech chi’n ymwybodol bod gan y Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan Is-Bwyllgor yr Iaith Gymraeg? (a nifer o Is-Bwyllgorau pellach sy’n canolbwyntio ar faterion penodedig ee Llwybrau Cerdded; Caru Llanbed).
Dyma’r aelodau: Y Maer, Cyngh. Rhys Bebb Jones, Dirprwy-Faer Cyngh. Gabrielle Davies, Cyngh. Richard Marks, Cyngh. Tref a Sirol Ann Bowen Morgan a’r Gyngh. M. Eleri Thomas (Cadeirydd yr Is-Bwyllgor 2023-24)
Dewch i ni ddadbacio gweithgareddau’r Is-Bwyllgor yn ystod y flwyddyn fwrdeistrefol ddiwethaf. (Mai 2023-24)
Cynhaliwyd Asesiad Iaith Gymraeg o fusnesau’r Dref o dan y penawdau: Y nifer, o fewn busnes, sy’n: “Gallu siarad Cymraeg yn rhugl”; “Dysgwyr” & “Methu siarad yr iaith ar hyn o bryd”. Roedd y data a gasglwyd yn caniatáu aelodau i sefydlu pa fusnesau oedd yn gymwys i gymryd rhan yng Nghynllun Hapus i Siarad, menter ar y cyd rhwng y Cyngor Tref a Cered, Menter Iaith, Cyngor Sir Ceredigion o dan arweiniad Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cered a Siriol Teifi ei gyd-weithiwr.
Lansiwyd y cynllun yn Llanbedr Pont Steffan ar y 13.01.2024. Mae posteri Hapus i Siarad a arddangosir o fewn busnesau yn nodi ei bod yn bosib cynnal sgwrs yn yr iaith Gymraeg yn y Siop honno. Cardiau teyrngarwch ar gynnig fel cymhelliant a gwobrau i’w cyflwyno. Rhestr o fusnesau sy’n cymryd rhan (gweler y llun) a diweddaru’n barhaol mewn cydweithrediad â Cered. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ymrwymo i’r Cynllun. Croeso i unrhyw fusnes i ymuno. Rydym o’r farn bod y gallu i gyfathrebu’n y Gymraeg yn ychwanegu gwerth i unrhyw fusnes, yn enwedig mewn lle gwledig fel Llanbedr PS a’r Cylch.
Ystyriwyd safle ar wefan y Cyngor Tref a adnewyddwyd yn ddiweddar. Argymhellwyd y dylai holl wybodaeth ymddangos yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r holl Is-bwyllgorau’n ymroi i ddarparu gwasanaeth dwy-ieithog ee posteri, sy’n rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Defnydd y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol: Fb, X, Instagram. Argymhellwyd y dylai holl bosteri ac ati ymddangos yn ddwyieithog.
Digwyddiad “Dangos” Llambed: o dan arweiniad Is-Bwyllgor Caru Llanbed y Cyngor Tref: Stondin Iaith Gymraeg wedi’i threfnu o fewn y Digwyddiad, ac wedi ennyn diddordeb. Wedi cyfeirio aelodau’r cyhoedd at wasanaethau Cymraeg a oedd ar gael e.e. Helo Blod (Gwasanaeth Cyfieithu)
Rasys Sarn Helen: Cyflwynwyd arwyddion dwyieithog o ganlyniad i gais gan y Cyngh. Richard Marks, rhedwr brwd.
Gwnaeth y Cyngor Tref gyfraniadau ariannol i hyrwyddo’r Gymraeg a Diwylliant Cymreig i gynnwys Ffair yr Iaith – Garth Newydd; Parêd Dewi Sant; Cynllun Hapus i Siarad & Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, i enwi ond ychydig.
Mynychwyd a chyfrannwyd i, nifer o ddigwyddiadau’r dref, sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Ymwelwyr cyson i’r digwyddiadau oedd y Maer Rhys Bebb Jones a’r Faeres Shan Jones i gynnwys Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen; Ffair yr Iaith – Garth Newydd; Parêd Dewi Sant- Llywyddion amlwg sef Cyn-Faer Rob Phillips, ei briod Mrs Delyth Morgans Phillips a’u plant Tryfan a Rhys; Lansio’r Radio Cyfrwng Cymraeg Ysgol Bro Pedr ac Ifan Meredith wrth y llyw; Cyngerdd i ddathlu Penblwydd 60 oed Côr Cwmann a Digwyddiad Gwilym Bowen Rhys i ddiddanu’r dysgwyr yn y Llain Castell ’nôl ym mis Ionawr. Gwelwyd ymddangosiad cynta’ Heti Beti yng Ngŵyl Calan Mai, digwyddiad hynod lwyddiannus a drefnwyd gan yr Is-Bwyllgor Caru Llanbed. Yn sicr mwynhawyd gwledd o ddigwyddiadau a oedd yn hybu’r iaith a diwylliant Cymreig, gormod i’w rhestru fan hyn ond yn dangos bod y Gymraeg yn iaith i bawb. Holl yn ddathliad o gelfyddydau, diwylliant a chymuned anhygoel yr ardal.
Cysylltodd y Cyngor Tref â rhai Darparwyr Gwasanaeth i holi pam fod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg wedi’u dileu. Hefyd ymateb i Ymghynghoriadau fel Comisiwn Ffiniau Cymru sy’n argymell gostwng rhifau Cynghorwyr Tref Llanbedr PS o 15 i 7; wedi lleisio efallai o bosibl byddai llai o gynrychiolaeth yr Iaith Gymraeg ar y Cyngor Tref petai hyn yn cael ei wireddu yn enwedig pan fod Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn anelu at 1 miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.
Materion personol
Y Cyngh. Richard Marks wedi gorffen ei swydd fel Cynghorydd Tref ar y 30.04.2024. Diolchir iddo am ei gyfraniad cyfoethog i’r Is-Bwyllgor yr Iaith Gymraeg ac i’r Cyngor Tref.
Fffarweliwyd â’r Parch Goronwy Evans yn ystod y flwyddyn, unigolyn a gyfrannodd mor hael a gwerthfawr i’r Iaith a diwylliant Cymreig Llanbedr PS a thu hwnt dros ystod o hanner canrif.
Mwynhawyd y rhaglen Y Sgubor Flodau â phresenoldeb amlwg y Maer (2024-25) sef Gabrielle Davies, yn enwedig pan gyflwynwyd detholiad o flodau hardd i Mrs Janet Evans, Llanbedr PS.
Diolch i bawb sydd wedi helpu’r Cyngor Tref yn ei daith i ddefnyddio’r Gymraeg ac i hybu’r Gymraeg, mewn unrhyw fodd – Cymry Cymraeg, Dysgwyr a’r Chwilfrydig. Gwerthfawrogir cefnogaeth gwirfoddolwyr, artistiaid, pobl greadigol, grwpiau cymunedol, partneriaid, cefnogwyr, hyrwyddwyr a thrigolion Llanbedr PS a thu hwnt. Os oes gennych unrhyw syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg croesawir eich syniadau. Cysylltwch â’r Clerc ar clerc@lampeter-tc.org.uk – gall eich cyfeirio i’r aelodau perthnasol.