![0H8A4707](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/01/0H8A4707-640x396.jpg?4s3)
Aelodau’r dyfodol yn cael gwersi rasio beics gan ddau bencampwr enduro byd Alex Snow a Steve Holcombe ar fore dydd Sadwrn ym Mrongest.
![0H8A4735](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/01/0H8A4735-308x190.jpg?a6)
Bois tîm DDBC a enillodd wobr tîm gorau Prydain mas yn yr Ariannin yn yr ISDE nos sadwrn yng nghinio’r clwb yng Ngwesty Glynhebog Llanbed.
![419667748_3310153149283117](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/01/419667748_3310153149283117-308x190.jpg?4eb)
Aled Evans, Cwmann cadeirydd y clwb gyda Alex Snow a Steve Holcombe pencampwyr enduro’r byd yng Ngwesty Glynhebog.
Cynhaliwyd cinio blynyddol Clwb Dirt Bike Dyfed yng Ngwesty Glynhebog, Llanbed nos Sadwrn ddiwethaf lle bu tipyn o ddathlu.
Tynnwyd llun bois tîm y clwb a enillodd wobr tîm gorau Prydain mas yn yr ISDE – Enduro Chwe Niwrnod Rhyngwladol yn yr Ariannin ar y noson. Enwau’r rhai balch yn y llun yw Rhys Evans, Neil Hawker, Simon Hewitt a Meirion Scourfield, rheolwr y tîm ac ysgrifennydd y clwb.
Yn ystod y noson cyflwynodd Aled Evans, Cwmann sef cadeirydd y clwb brintiau a dynnwyd gen i ohonyn nhw wedi eu fframio i Alex Snow a Steve Holcombe pencampwyr enduro’r byd.
Ar y bore Sadwrn hwnnw cafodd aelodau dyfodol y clwb wersi rasio beics gan y ddau bencampwr enduro byd Alex Snow a Steve Holcombe ar fferm Dolgoch ym Mrongest. Diolch i Matt Fordham am gael defnyddio’r lle.
Tipyn o benwythnos felly a phawb wedi cael profiadau bythgofiadwy.