Dathlu’r Plygain yn Llanbed

Nos Lun, 2 Rhagfyr am 7.00 o’ gloch

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3257

Poster Y Plygain nos Lun 2 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch yn Nghapel Coleg y Brifysgol, Llanbed

IMG_3197

Canu ‘Carol y Swper’ Plygain 2023 yng Nghapel Coleg y Brifysgol, Llanbed

Cynhelir yr achlysur blynyddol hwn eto eleni yng Nghapel y Coleg Campws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dyma un o ddigwyddiadau cyntaf yr Adfent yn Llanbed ers nifer o flynyddoedd. Diolch yn arbennig i’r Dr Rhiannon Ifans am y trefniadau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ddefnyddio’r Capel ac i Gyngor Tref Llanbed am eu cefnogaeth ariannol.

Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn Yr Hedyn Mwstard, 16 Ffordd y Coleg. Diolch yn fawr iddynt am groesawu yno’r cantorion a’r gynulleidfa wedi’r Plygain – cyfle i gymdeithasu a mwynhau’r lluniaeth.

Dewch yn llu i fwynhau’r datganiadau o garolau digyfeiliant, yn unawdau, deuawdau ac yn bartion. Bydd y cyfranwyr yn teithio i Lanbed o bell ac agos megis ardaloedd Aberystwyth, Llandeilo ac wrth gwrs Llanbed.

Croeso cynnes iawn i bawb yn y Plygain yn Llanbed nos Lun 2 Rhagfyr am 7.00 yng Nghapel y Coleg yn y Brifysgol.

Dweud eich dweud