Catrin Evans o Glwb Mydroeilyn yn ennill y Goron a Ianto Jones o Glwb Felinfach yn ennill y Gadair.
Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu. Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.
Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.
Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt. Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.
Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill. Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?
Aeron360
BroAber360
BroCardi360
Caron360
Carthen360
Cwilt360
#SIRGÂR Llun tîm Deuawd / Triawd Doniol Clwb Llanllwni a enillodd y gystadleuaeth yng Nghaerfyrddin. Diolch i Carwen am ddanfon y llun ymlaen.
Pob lwc i bawb yn Eisteddfod CFFI Cymru a fydd yn cael ei chynnal yn Ysgol Bro Myrddin ar Dachwedd 2il.
Gobeithio bydd Clonc360 yn gallu gohebu o fan hynny eto. 🤞🤞
Pontsian gyda’u tariannau ar ddiwedd yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau mawr i chi.
Côr Pontsian.
Lowri Elen, Bro’r Dderi, cafodd tipyn o lwyddiant.
Ymgom Bro’r Dderi a ddaeth yn gyntaf.
Seremoni y Gadair a’r Goron
Sgets Llanwenog a ddaeth yn gydradd 3ydd.
Llanwenog a ddaeth yn 2il yn y Parti Deulais yn canu Ave Maria.
Alwena a Gwennan Owen, Pontsian a ddaeth yn 3ydd yn y Ddeuawd.