Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu. Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.
Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.
Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt. Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.
Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill. Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?
Aeron360
BroAber360
BroCardi360
Caron360
Carthen360
Cwilt360
Bu 3 yn cystadlu yn Llefaru 17 neu Iau a 2 yn Unawd 28 neu Iau.
Llefaru 13 neu Iau wedi gorffen gyda 7 yn cystadlu.
Unawd 17 neu Iau sydd nesaf. Hunanddewisiad gan gyfansoddwr o Gymru gan eithro cyfansoddwyr sydd wedi’i ddewis yn y teatunau eraill.
#SIRGÂR Trefn y dydd yn Ysgol Bro Myrddin heddiw.
Cystadleuaeth cyntaf y dydd newydd orffen gyda 8 yn cystadlu.
Llefaru 13 neu Iau. Darn gosod ‘Y Goeden’ gan Mererid Hopwood.
Mae’r cystadlu wedi dechre yma yn Eisteddfod #Ceredigion gyda’r Unawd 13 neu Iau.