Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu. Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.
Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.
Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt. Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.
Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill. Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?
Aeron360
BroAber360
BroCardi360
Caron360
Carthen360
Cwilt360
Cystadleuaeth i Aelodau 16 neu Iau
1. Sara Davies, Llanddewi Brefi
2. Osian Jones, Mydroilyn
3. Esyllt Jones, Llanwenog
Cystadleuaeth i Aelodau 21 neu Iau
1. Arthfael Edwards, Pontsian
2. Lleuwen Jones, Mydroilyn
3. Daniel Evans, Llanddewi Brefi
Rhyddiaith
1. Catrin Evans, Mydroilyn
2. Twm Ebbsowrth, Llanwenog
3. Heledd Evans, Caerwedros
Cerdd
1. Ianto Jones, Felinfach
2. Elen Davies, Pontsian
3. Elin Williams, Tregaron
Parti Deusain
1. Troedyraur
2. Llanwenog
3. Pontsian
Deuawd/Triawd Doniol
1. Troedyraur
2. Tregaron
3. Llangwyryfon a Caerwedros
Côr
1. Felinfach
2. Pontsian
Canlyniadau #Ceredigion
Ensemble Lleisiol
1. Caerwedros
2. Troedyraur
3. Trisant
Sgets
1. Pontsian
2. Llangeitho a Llangwyryfon
3. Felinfach a Llanwenog
#CEREDIGION Clwb Pontsian yn ennill yr eisteddfod am y marciau uchaf, gyda Llanwenog yn ail a Felinfach yn drydydd.
Canlyniadau Terfynol Eisteddfod CFfI Sir Gâr
Gwaith Cartref
1 Llandybie
2 Llangadog
3= Capel Iwan
3= Llanfynydd
5 Dyffryn Tywi
6= Llannon
6= Penybont
8= Cynwyl Elfed
8= Llanllwni
Tarian yr Eisteddfod
1 Penybont
2 Llanddarog
3= Capel Iwan
3= Llanllwni
5 Llangadog
6 Dyffryn Cothi
7 Llanymddyfri
8= Dyffryn Tywi
8= San Ishmael
Eisteddfod CFfI Sir Gâr
Meimio i Gerddoriaeth
1 Llanllwni
2 Penybont
3 Capel Iwan
Adrodd Digri
1 Jac Davies, Dyffryn Tywi
2 Daniel O’Callaghan, Penybont
3 Aled Thomas, Llangadog
Unawd Sioe Gerdd/ Ffilm 18-28 oed
1 Hannah Richards, Penybont
2 Dafydd Evans, San Ishmael
3 Carwen George, Dyffryn Cothi
Deuawd/ Triawd Doniol
1 Llanllwni
2 Llanddarog
Côr Cymysg
1 Penybont
2 Llanddarog
3 Capel Iwan
#SIRGÂR Bu’r canlynol yn cyfarch y bardd a’r llenor buddugol yn y seremoni: Anna Davies, Dyffryn Cothi; Cathrin Jones, Llanllwni; Ceris Thomas, Capel-Arthne a Marged Jones, Cwmann.
#SIRGÂR Meim Clwb Cwmann.
#SIRGÂR Meim Clwb Llanllwni.