Ail ddiwrnod Eisteddfodau Sir CFfI Ceredigion a Sir Gâr

Holl gyffro cystadlu’r clybiau lleol o Bont ac o Gaerfyrddin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2681

Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu.  Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.

Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.

Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt.  Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.

Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill.  Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?

Aeron360

BroAber360

BroCardi360

Caron360

Carthen360

Cwilt360

12:26

Bu 3 yn cystadlu yn Llefaru 17 neu Iau a 2 yn Unawd 28 neu Iau. 

11:34

Llefaru 13 neu Iau wedi gorffen gyda 7 yn cystadlu.

Unawd 17 neu Iau sydd nesaf. Hunanddewisiad  gan gyfansoddwr o Gymru gan eithro cyfansoddwyr sydd wedi’i ddewis yn y teatunau eraill. 

11:23

IMG_2682

#SIRGÂR Trefn y dydd yn Ysgol Bro Myrddin heddiw.

11:12

Cystadleuaeth cyntaf y dydd newydd orffen gyda 8 yn cystadlu. 

Llefaru 13  neu Iau. Darn gosod ‘Y Goeden’  gan Mererid Hopwood. 

10:43

Mae’r cystadlu wedi dechre yma yn Eisteddfod #Ceredigion gyda’r Unawd 13 neu Iau.