Ail ddiwrnod Eisteddfodau Sir CFfI Ceredigion a Sir Gâr

Holl gyffro cystadlu’r clybiau lleol o Bont ac o Gaerfyrddin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2681

Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu.  Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.

Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.

Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt.  Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.

Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill.  Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?

Aeron360

BroAber360

BroCardi360

Caron360

Carthen360

Cwilt360

14:29

Mari Evans CFfI Llanwenog yn agor canu emyn nofis. 

13:23

Ni yng nghanol yr Unawd Offerynnol. Ni wedi cael datganiad ar y delyn, piano a nawr y ffliwt. 

12:54

Canlyniadau cyntaf #Ceredigion

Unawd 13 neu Iau

1. Gwennnan Owen, Pontsian

2. Ella Gwen Keevan, Trisant

3. Tirion Tomos, Llanwenog

Llefaru 13 neu Iau

1. Meia Evans, Trisant

2. Magw Thomas, Pontsian 

3. Isaac Rees, Caerwedros 

12:28

Lowri Elen o CFfI Bro’r Dderi yn cystadlu 

12:26

Bu 3 yn cystadlu yn Llefaru 17 neu Iau a 2 yn Unawd 28 neu Iau. 

11:34

Llefaru 13 neu Iau wedi gorffen gyda 7 yn cystadlu.

Unawd 17 neu Iau sydd nesaf. Hunanddewisiad  gan gyfansoddwr o Gymru gan eithro cyfansoddwyr sydd wedi’i ddewis yn y teatunau eraill. 

11:23

IMG_2682

#SIRGÂR Trefn y dydd yn Ysgol Bro Myrddin heddiw.

11:12

Cystadleuaeth cyntaf y dydd newydd orffen gyda 8 yn cystadlu. 

Llefaru 13  neu Iau. Darn gosod ‘Y Goeden’  gan Mererid Hopwood. 

10:43

Mae’r cystadlu wedi dechre yma yn Eisteddfod #Ceredigion gyda’r Unawd 13 neu Iau.