Ail ddiwrnod Eisteddfodau Sir CFfI Ceredigion a Sir Gâr

Holl gyffro cystadlu’r clybiau lleol o Bont ac o Gaerfyrddin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2681

Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu.  Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.

Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.

Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt.  Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.

Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill.  Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?

Aeron360

BroAber360

BroCardi360

Caron360

Carthen360

Cwilt360

01:11

Llanwenog a ddaeth yn 2il yn y Parti Deulais yn canu Ave Maria. 

01:10

Alwena a Gwennan Owen, Pontsian a ddaeth yn 3ydd yn y Ddeuawd. 

01:09

IMG_5699

Alwena Owen, Pontsian enillodd yr Unawd Offerynnol. Pob lwc yng Nghymru. 

01:08

Marciau Terfynol

1. 91 Pontsian

2. 79 Llanwenog

3, 75 Felinfach

4. 71 Mydroilyn

5. 54 Tregaron

6. 42 Llangwyryfon

7. 41 Caerwedros

8. 37 Troedyraur 

9. 31 Bro’r Dderi

10. 28 Trisant

01:05

Clwb Gorau yn yr Adran Gwaith Cartref

1. 33 – Pontsian

2. 32 – Felinfach, Llanwenog a Mydroilyn

Clwb Gorau yn yr Adran Ysgafn

1. Pontsian

Clwb Gorau yn yr Adran Lwyfan

1. Pontsian

01:02

Rhestr Tlysau

unawdydd Gorau – Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi

Llefarydd Gorau – Ela Mablen, Mydroilyn

01:00

Llyfr Lloffion

1. Mydroilyn

2. Felinfach

3. Trisant

Llyfr Cofnodion

1. Elan Jenkins, Llanwenog 

2. Mared Jones, Felinfach

3. Elin ac Alys, Pontsian 

Llyfr Trysorydd

1. Tomos Rees, Troedyraur 

2. Sara Griffiths, Trisant

3. Megan Evans, Mydroilyn

00:59

Cyfansoddi 28 neu Iau

1. Mali Gerallt Lewis, Felinfach

2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn

3. Gwawr Evans, Troedyraur a Malen Jenkins, Llanddewi Brefi

Rhaglen Clwb

1. Penparc

2. Felinfach

3. Lledrod

00:57

Ffotograffiaeth

1. Emily Lloyd-Williams, Llangwyryfon

2. Sara Griffiths, Trisant

3. Sophie Jones, Llanwenog a Gwenan Owen, Mydroilyn 

Celf a Chrefft 28 neu Iau

1. Cerys Silvestri-Jones, Caerwedros

2. Arthfael Edwards, Pontsian 

3. Hanna Parry, Pontsian ac Angharad Evans, Mydroilyn

00:54

Cystadleuaeth i Aelodau 28 neu Iau

1. Meinir Rees, Llanwenog

2. Gwenno Jones, Felinfach

3. Eiry Williams, Llangwyryfon 

Brawddeg

1. Fflur Meredith, Bro’r Dderi

2. Hawys Evans, Troedyraur 

3. Siriol Teifi, Pontsian 

Limrig

1. Angharad Evans, Mydroilyn

2. Siriol Teifi, Pontsian 

3. Sara Griffiths, Trisant a Ianto Jones, Felinfach