Dewch i fwynhau diod fach a chlonc yn yr Ŵyl Gwrw a Seidr!

Cynhelir Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed dydd Sadwrn hyn, yr 17eg o Chwefror 2024

gan Andrew James Davies
Gwyl-gwrw-2Rob Phillips

Bydd dros ugain o fathau o gwrw, a dros bymtheg o gwahanol fathau o seidr.

Gwyl-gwrwAnn Bevan

Yng nghanol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ceir ambell benwythnos lle mae’r timoedd yn cael hoe fach haeddiannol. Ond, er y diffyg rygbi rhyngwladol, does dim angen crafu pen yn chwilio am rywbeth i wneud dydd Sadwrn hyn – dewch draw i Ŵyl Gwrw a Seidr Llambed am ddiodydd ffein, cwmni da a cherddoriaeth fyw. Cynhelir yr ŵyl dydd Sadwrn hyn, yr 17eg o Chwefror 2024 (12:00-23:00), yn neuadd Lloyd Thomas ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Bellach yn ei nawfed blwyddyn, mae’r ŵyl yn mynd o nerth i nerth gan ddod â’r diodydd gorau o ledled Cymru i Lambed. Bydd gennym ni dros ugain o fathau o gwrw Cymreig i chi eu blasu – gan amrywio o lager ffres ysgafn, cwrw chwerw dwys, IPA Americanaidd gyda blas hopys, i Stowt a Porters tywyll a chyfoethog. O ran y seidr, bydd dros bymtheg o wahanol fathau ar gael, i gyd o Gymru: gan gynnwys seidr afal melys, canolog a sych, ac ystod o ffrwythau eraill megis mwyar duon a seidr peran.  Bydd yna wir rywbeth at ddant pawb.

Yn ogystal, bob blwyddyn mae’r ŵyl yn cynnig ystod o gerddoriaeth fyw, ac eleni rydym yn falch o groesawu’r artistiaid canlynol i berfformio:

  • ‘Cariad’: canwr a gitarydd o Aberteifi (13:00-14:00);
  • ‘The Golden Geckos’: deuawd acwstig sy’n canu caneuon poblogaidd (15:30-16:30);
  • ‘Côr Pam Lai?’: y Côr Meibion bywiog o Lambed a’r cylch (17:45-18:45);
  • Joe Seager: canwr a gitarydd talentog sydd yn sicr o gael y gynulleidfa ar eu traed i ddawnsio (20:30-21:30).

Felly, beth am ddod draw am ddiod fach a chlonc?

Y pris mynediad yw £4.50, sy’n cynnwys gwydr peint arbennig. Mae modd prynu tocynnau a thalebau diodydd o’n gwefan: https://lampeterbeerfestival.co.uk/ Neu, mae modd talu wrth y drws ar y diwrnod.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi – a iechyd da!