TMae staff a myfyrwyr wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod ar gampws Prifysgol Llanbed prynhawn ’ma gyda chynrychiolaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“diffyg o £11m”
Mewn datganiad yn dilyn y cyfarfodydd heddiw, medd Llefarydd ar ran PCYDDS bod diffyg o £11m wedi ei ganfod yng nghyfrifon 2022-23 ac felly wedi gorfod cynnal “adolygiad trylwyr o weithgareddau’r Brifysgol yn hanner cyntaf 2024.”
Bellach, 197 yn unig o fyfyrwyr llawn amser sydd ar gampws Llanbed gyda 112 o staff.
Mae campws Llanbed yn costio tua £2.7m y flwyddyn i’w gynnal ac mae PCYDDS yn amcangyfrif bod costau cynnal a chadw a chostau cydymffurfio yn £33.5m.
Y cyfarfod
Clywodd Clonc360 adroddiadau bod staff diogelwch o Gaerfyrddin yn bresennol tu allan i’r cyfarfod gyda rhai o staff y campws gwrthod cael mynediad i’r cyfarfod. Fodd bynnag, mewn ymateb, dywedodd PCYDDS nad oedd unrhyw staff diogelwch o Gaerfyrddin yn Llanbed ond bod “rheolwyr llinell o gampysau eraill yn bresennol i’w cefnogi” yn ystod y digwyddiad.
Wrth ymateb i’r honiad na chafodd rhai mynediad i’r cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod “y cyfarfod cychwynnol ar gyfer staff craidd”.
“Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda staff na fynychodd y cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf.”
“wedi ymrwymo i gadw prif ystâd campws Llanbedr Pont Steffan”
Dywedodd PCYDDS eu bod yn gweithio i ddod o hyd i ddulliau amgen i “gyflwyno gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag addysg a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r campws hwn a dyfodol mwy diogel”.
“Rydym wedi dechrau ein deialog gyda’n staff ac undebau llafur i amlinellu’r weledigaeth a’r cyfeiriad arfaethedig. Byddwn yn cynnig cyfle i staff yr effeithir arnynt wneud cais am doriad gwirfoddol os ydynt am ystyried eu sefyllfa bersonol eu hunain.”
“ddim yn gwybod beth sy’n digwydd nesaf”
Un o’r myfyrwyr bu yn y cyfarfod oedd Caitlin Regola sy’n astudio Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a ddywedodd wrth Clonc360 bod yna ansicrwydd a bod “pryderon am gyrsiau fel Archeoleg gan fod gweddillion dynol ac adnoddau hanfodol ar gampws Llanbed”.
“O weld y ffigurau, dwi’n methu rhagweld bydd cyrsiau Dyniaethol yn aros yn Llanbed. Ond, dydy nhw [PCYDDS] heb feddwl am y newid o bresbectif myfyrwyr”.
“mae’r myfyrwyr wedi dewis Llanbed”
Dywedodd bod y “myfyrwyr wedi dewis Llanbed ac felly ddim am fynd i Gaerfyrddin. Mae rhai fi wedi siarad ’da yn meddwl symud prifysgol”
Mae deiseb wedi ei lansio mewn gwrthwynebiad i’r cynlluniau gyda 1,684 o lofnodion ar y foment. Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ym mis Ionawr 2025.