Diolch yn fawr pobl Llanbed!

Diwedd blwyddyn y Cynghorydd Rhys Bebb Jones yn Faer 

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
d63ae2ab-397b-42f2-a1da-1

Daw fy mlwyddyn yn Faer Tref Llanbed i ben 10fed Mai. Bu’n anrhydedd ac yn fwynhád bod yn Faer. Cafodd fy mhriod Shân a minnau flwyddyn arbennig a chofiadwy yn Faer a Maeres a byddwn yn ei thrysori am byth. Diolch yn fawr i’r gymuned yn Llanbed am y croeso cynnes a hwyliog a gawsom ymhob digwyddiad. Mae’n anhygoel cymaint o gymdeithasu sy’n digwydd yn Llanbed!

Mae fy niolch hefyd i’r tîm ardderchog o Gynghorwyr, Clerc y Cyngor, ein Cyfieithydd a Chaplan y Maer am eu holl waith a’u cefnogaeth. Bu’n fraint arwain criw mor ymroddgar a brwdfrydig. Dymunaf ddiolch yn fawr i Richard Marks am ei gyfraniad a’i gefnogaeth ar ddiwedd cyfnod o 6 blynedd o wasanaeth yn Gynghorydd gweithgar, cydwybodol a doeth iawn ei gyngor.

Daw fy mlwyddyn yn Faer i ben yn swyddogol yn Seremoni Urddo’r Cynghorydd Gabrielle Davies yn Faer ar gyfer 2024-25. Pob dymuniad da i Gabrielle yn Faer a’i phriod Ryan yn Gonsort a hefyd i Helen Thomas yn Ddirprwy Faer.

Dweud eich dweud