Ar Ragfyr y 1af, lawnsiwyd ymgyrch Nadolig Llwyddo’n Lleol sydd nawr i’w weld ar S4C ac ITV Wales.
Wedi’i gynhyrchu gan Wes Glei, mae’n dilyn stori teulu sydd wedi dychwelyd i ardal Arfor, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae hwn yn hysbyseb i Llwyddo’n Lleol 2050 sy’n rhan o Raglen Arfor. Nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw ‘darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid’.
Bu disgyblion Bl 4 a 5 Ysgol Carreg Hirfaen yn rhan o greu hysbyseb Nadolig Llwyddo’n Lleol eleni. Ddiwedd mis Hydref, roedd dosbarth Miss Hayley Griffiths wedi’i addurno’n nadoligaidd iawn a bu’r disgyblion yn brysur yn ffilmio ar gyfer yr hysbyseb. Diolch o galon i’r staff a’r disgyblion am eu gwaith arbennig! Cewch gyfle i weld yr hysbyseb drwy fis Rhagfyr ar S4C ac ITV Wales neu ewch draw i wefannau cymdeithasol Wes Glei er mwyn gwylio’r hysbyseb. https://www.facebook.com/profile.php?id=61568732038853