Wythnos o gystadlu ym Meifod

Y cyfan o ddyddiau Mercher-Gwener yn fyw o Eisteddfod yr Urdd, Meifod 2024!

gan Ifan Meredith
333_ffN_Urdd_02Llun_23-CopiURDD GOBAITH CYMRU

Tridiau o gystadlu yn fyw ar wefan Clonc360!

Diolch i Nia am yr ohebiaeth ddechrau’r wythnos, ymlaen nawr at ddiwedd wythnos o gystadlu ar faes yr Eisteddfod ym Meifod!

Holl lwyddiannau ardal Clonc360 yn fyw ar y blog byw hwn.

16:10

ba039ff6-d05b-473d-b1ce

Ifan Meredith, Ysgol Bro Pedr, enillydd cystadleuaeth Newyddiaduraeth 16-21 oed. 

16:09

Aelwyd Llambed – Gruffudd, Martha, Ifan a Betrys a ddaeth yn 3ydd yn y Tîm Siarad Cyhoeddus.

15:07

Rhagor o wobrau i Ysgol Bro Pedr ac Aelwyd Llambed yn y Siarad Cyhoeddus. 

10:28

IMG_7948

Yn dilyn cystadleuaeth Perfformiad Theatrig Ungigol, bl. 10 a dan 19 oed lle bu Swyn Tomos yn cystadlu ac yna Tîm Siarad Cyhoeddus Ysgol Bro Pedr, nôl i’r Pafiliwn Gwyrdd ar gyfer Perfformiad Theatrig o sgript bl. 10 a dan 19 oed lle mae Ysgol Bro Pedr newydd gystadlu!

08:06

Bore dydd Gwener sych ar faes yr Eisteddfod gyda’r gobaith am heulwen nes ymlaen. 

Diwrnod arall llawn cystadlu heddi yn dechrau ymhen rhyw hanner awr!

17:46

Ela Mablen newydd ennill Unawd Cerdd Dant Bl. 7, 8 a 9. 

16:51

Trystan yn ennill y Llefaru. 

16:42

Trystan Bryn yn cystadlu ar y Llefaru Unigol. 

16:19

Cyfweliad gyda Ela Mablen Griffiths Jones ar faes yr Eisteddfod yn teithio o un gystadleuaeth i’r llall!

16:15

CANLYNIAD:

Llefaru Unigol bl. 7-9:

1af : Trystan Bryn Evans, Cylch Dyffryn Aman