Tridiau o gystadlu yn fyw ar wefan Clonc360!
Diolch i Nia am yr ohebiaeth ddechrau’r wythnos, ymlaen nawr at ddiwedd wythnos o gystadlu ar faes yr Eisteddfod ym Meifod!
Holl lwyddiannau ardal Clonc360 yn fyw ar y blog byw hwn.
Rhagor o wobrau i Ysgol Bro Pedr ac Aelwyd Llambed yn y Siarad Cyhoeddus.
Yn dilyn cystadleuaeth Perfformiad Theatrig Ungigol, bl. 10 a dan 19 oed lle bu Swyn Tomos yn cystadlu ac yna Tîm Siarad Cyhoeddus Ysgol Bro Pedr, nôl i’r Pafiliwn Gwyrdd ar gyfer Perfformiad Theatrig o sgript bl. 10 a dan 19 oed lle mae Ysgol Bro Pedr newydd gystadlu!
Bore dydd Gwener sych ar faes yr Eisteddfod gyda’r gobaith am heulwen nes ymlaen.
Diwrnod arall llawn cystadlu heddi yn dechrau ymhen rhyw hanner awr!
Ela Mablen newydd ennill Unawd Cerdd Dant Bl. 7, 8 a 9.
Trystan yn ennill y Llefaru.
Trystan Bryn yn cystadlu ar y Llefaru Unigol.
Cyfweliad gyda Ela Mablen Griffiths Jones ar faes yr Eisteddfod yn teithio o un gystadleuaeth i’r llall!
CANLYNIAD:
Llefaru Unigol bl. 7-9:
1af : Trystan Bryn Evans, Cylch Dyffryn Aman
Unawd Cerdd Dant bl. 7-9 ar lwyfan y Pafiliwn Coch o hyd a Trystan Bryn Evans newydd ganu ac ar y ffordd draw i ganlyniad y Llefaru Unigol bl. 7-9 ond wedi cael sgwrs cyflym gyda Clonc360 cyn y canlyniad!
Trystan Bryn Evans, Aelod Unigol Dyffryn Aman yn yr Unawd Bechgyn Bl. 7, 8 a 9.