Tridiau o gystadlu yn fyw ar wefan Clonc360!
Diolch i Nia am yr ohebiaeth ddechrau’r wythnos, ymlaen nawr at ddiwedd wythnos o gystadlu ar faes yr Eisteddfod ym Meifod!
Holl lwyddiannau ardal Clonc360 yn fyw ar y blog byw hwn.
Trystan Bryn yn cystadlu ar y Llefaru Unigol.
Cyfweliad gyda Ela Mablen Griffiths Jones ar faes yr Eisteddfod yn teithio o un gystadleuaeth i’r llall!
CANLYNIAD:
Llefaru Unigol bl. 7-9:
1af : Trystan Bryn Evans, Cylch Dyffryn Aman
Unawd Cerdd Dant bl. 7-9 ar lwyfan y Pafiliwn Coch o hyd a Trystan Bryn Evans newydd ganu ac ar y ffordd draw i ganlyniad y Llefaru Unigol bl. 7-9 ond wedi cael sgwrs cyflym gyda Clonc360 cyn y canlyniad!
Trystan Bryn Evans, Aelod Unigol Dyffryn Aman yn yr Unawd Bechgyn Bl. 7, 8 a 9.
Yr Unawd Cerdd Dant sydd ’mlan ar lwyfan y Pafiliwn Coch nawr ond yn ymgasglu cefn llwyfan mae Telynau yn barod ar gyfer cystadleuaeth yr Unawd Telyn bl. 7-9.
Ymysg rheiny mae Alwena Mair Owen, Llanllwni fydd yn cystadlu nes ymlaen fel soniodd mewn cyfweliad sain.
CANLYNIAD:
Unawd Bechgyn bl. 7-9:
1. Cian Glyn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
2. Trystan Bryn Evans, Cylch Dyffryn Aman
3. Lleu Williams, Ysgol David Hughes
CANLYNIAD:
Unawd Merched bl. 7-9:
1. Ela Mablen Griffiths Jones, Ysgol Gyfun Aberaeron
2. Nel Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
3. Gwenno Beech, Ysgol Dyffryn Ogwen
Ela Mablen Griffiths Jones yn llefaru ‘Y Filltir Sgwâr’ yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol bl. 7-9.
Ela Mablen yn cystadlu yn yr Unawd Merched.