Diwrnod o chwaraeon yn y brifddinas

Ysgol Bro Pedr yn chwarae mewn rowndiau terfynol hoci a rygbi heddiw.

gan Ifan Meredith
IMG_7037

Dilynwch hynt a helynt timau hoci a rygbi Ysgol Bro Pedr yn fyw ar y blog byw hwn.

Tri digwyddiad chwaraeon byddwn yn eu dilyn yn ystod y dydd heddiw:

10:00 Rowndiau terfynol hoci bechgyn blwyddyn 7 – Gerddi Soffia

13:00 Rownd derfynol rygbi dan 18 i ysgolion – Ysgol Bro Pedr yn erbyn Ysgol Bro Teifi – Stadiwm y Principality

15:30 Rowndiau terfynol hoci bechgyn hŷn – Gerddi Soffia

14:00

Eilyddio:

Sion Evans 🔴 Llyr Davies 🟩

Efan Thomas 🔴 Konrad Syguda 🟩

13:53

Bro Pedr yn ildio cic gosb am blymio. 
Ysgol Bro Pedr 7-29 Ysgol Bro Teifi

13:47

Jorge Martin yn derbyn carden felen am dacl uchel. 

13:44

Yr ail hanner wedi cychwyn yn y Principality. 

13:38

Sgôr ar yr hanner:

Ysgol Bro Pedr 7-26 Ysgol Bro Teifi 

13:37

Steffan Evans yn sgorio i roi Bro Pedr ar y agorfwrdd ac Osian Roberts yn trosi cyn yr hanner. 

13:33

Tomos Evans yn croesi’r linell gais. 
Ysgol Bro Pedr 0-26 Ysgol Bro Teifi. 

13:22

Rhyng-gipiad gan Fro Teifi yn arwain at gais a throsiad arall.

Ysgol Bro Pedr 0-21 Ysgol Bro Teifi

13:14

Cais a throsiad arall i Fro Teifi.

Ysgol Bro Pedr 0-14 Ysgol Bro Teifi

13:06

Ysgol Bro Pedr yn gwasgu ond yn aflwyddiannus.