Diwrnod o chwaraeon yn y brifddinas

Ysgol Bro Pedr yn chwarae mewn rowndiau terfynol hoci a rygbi heddiw.

gan Ifan Meredith
IMG_7037

Dilynwch hynt a helynt timau hoci a rygbi Ysgol Bro Pedr yn fyw ar y blog byw hwn.

Tri digwyddiad chwaraeon byddwn yn eu dilyn yn ystod y dydd heddiw:

10:00 Rowndiau terfynol hoci bechgyn blwyddyn 7 – Gerddi Soffia

13:00 Rownd derfynol rygbi dan 18 i ysgolion – Ysgol Bro Pedr yn erbyn Ysgol Bro Teifi – Stadiwm y Principality

15:30 Rowndiau terfynol hoci bechgyn hŷn – Gerddi Soffia

13:14

Cais a throsiad arall i Fro Teifi.

Ysgol Bro Pedr 0-14 Ysgol Bro Teifi

13:06

Ysgol Bro Pedr yn gwasgu ond yn aflwyddiannus. 

13:04

Sgôr gyntaf y gêm i Fro Teifi. Guto Dafis yn sgorio a Tomos Lloyd Evans yn trosi. 
Ysgol Bro Pedr 0-7 Ysgol Bro Teifi

13:02

Gêm wedi cychwyn ar y Princioality!

12:28

Y paratoadau yn parhau ar Barc yr Arfau yb barod ar gyfer penllanw gemau’r flwyddyn. 

12:27

Draw nawr i’r Principality ar gyfer rownd derfynol rygbi bechgyn ysgolion dan 18 oed.

Dyma glip o’r ymarfer olaf ddoe!

12:25

Canlyniad cynta’r dydd:

Tîm hoci bechgyn blwyddyn 7 yn cipio’r ail wobr ar lefel cenedlaethol. 

12:19

Draw ym mharc yr Arfau mae’r timoedd yn ymarfer cyn y gic gyntaf am 1. 

11:44

Tîm rygbi hŷn Ysgol Bro Pedr wedi cyrraedd yr ystafelloedd newid yn y Principality yn barod ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Ysgol Bro Teifi fydd yn dechrau am 1. Bydd yna ddiweddariadau byw ar y blog hwn neu mae’r gêm ar gael i’w gwylio ar y linc yma:

11:43

Diwedd Gêm 3:

Ysgol Bro Pedr – 0

Ysgol Brynhyfryd – 1