Cynhaliwyd taith tractorau elusennol flynyddol Drefach ddydd Sul diwethaf a drefnwyd gan Peter Davies a’i dîm o gynorthwywyr.
Gyda thaith o ychydig llai nag 20 milltir gadawodd y confoi o 120 o dractorau y pentref a gwneud eu ffordd tuag at Rhyddlan a Llanfianghel ar Arth. Oddi yno gwnaeth y gyrwyr eu ffordd draw i New Inn a llwybr byr i fyny at Fynydd Brechfa lle bu seibiant fer. Rhaid oedd edmygu’r golygfeydd dros Geredigion a’r fferm wynt yng Nghoedwig Brechfa.
Yn ail hanner y llwybr aeth y tractorau yn ôl dros y mynydd, i lawr i Lanllwni ac yna ymlaen i Faesycrugiau ac yn ôl i’r diwedd drwy Lanwenog lle’r oedd bwyd yn aros i’r gyrwyr yn y cae yn Nrefach.
Aeth yr arian a godwyd at y Glefyd Niwronau Motor a hyd yma mae dros £3,500,00 wedi’i godi i’r elusen.
Diolchodd Peter Davies i’r rhai a fynychodd gan gynnwys ei dîm o gynorthwywyr, a hebddynt ni fyddai’r daith yn bosibl. Gyda rhoddion yn dal i gyrraedd ar ôl y daith bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Roedd cymaint o hen dractorau clasurol wedi dod a daeth nifer fawr o bobl i weld y tractorau yn y bore gan gynnwys Ben Lake, wyneb poblogaidd yn Nrefach. Dyma oedd y lle i fod fore Sul.