Dydd Llun yr Eisteddfod

Dilynwch yr hanes drwy gydol y dydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.

00:25

Cloi’r noson wrth ganu’r anthem genedlaethol.

Eisteddfod llwyddiannus eleni eto!

Llongyfarchiadau i’r rheiny a fu’n cystadlu!

23:35

Diolch yn fawr i chi gyd am ddilyn y blog. Gobeithio eich bod wedi cael blas i fyw a meddwl eich bod yn yr eisteddfod. 
Tan y tro nesa. 

23:03

Canlyniad Y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21

1. Meleri Morgan

2. Heledd Besent

3. Carol Davies

Canlyniad Her Unawd dros 21

1. Ffion Thomas

2. Barry Powell

3. Heledd Besent

22:57

Canlyniad Alaw Werin dros 19 oed:

1. Lowri Elen Jones

2. Ffion Thomas

3. Heledd Bessant

22:51

Canlyniad Lieder neu Cân Gelf:

1. Ffion Thomas

2. Barry Powell

3. Heledd Bessant

22:47

Cystadleuydd olaf Eisteddfod Llanbed 2024 yw Heledd Bessant yn canu yng nghystadleuaeth yr Her Unawd dros 21 oed. 

22:35

Un o gyfeilyddion yr Eisteddfod yw Rhiannon Pritchard. Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith gwerthfawr drwy gydol y penwythnos. 

22:31

Canlyniad diweddaraf: Darn Dramatig neu Fonolog agored:

1. Ela Mablen Griffiths Jones

2.Swyn Tomos

3. Gwion Bowen

22:22

Ymlaen at y ddwy gystadleuaeth olaf sef y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed a’r Her Unawd dros 21 oed. Bydd y ddwy yma yn cyd-redeg gyda thri yn cystadlu yn y ddwy gystadleuaeth. 

Y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed:

– Meleri Morgan

– Heledd Besant

– Carol Davies

Her Unawd dros 21 oed

– Barry Powell

– Heledd Besant

– Ffion Thomas

22:14

Ni newydd ddechrau ar y ddwy gystadleuaeth olaf sef yr Y Brif Gystadleuaeth Lefaru deos 21 a Her Unawd dros 21.