Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.
Seremoni Cadeirio gyda Dawnswyr Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio.
Bardd y Gadair 2024: na, dydych chi ddim yn gweld dwbwl, a dy’n ni ddim yn gwneud camgymeriad technegol trwy ail gyhoeddi lluniau anghywir … Karen Owen yw enillydd y Gadair.
Hi enillodd y Fedal Ryddiaith yn gynt y prynhawn ’ma hefyd.
Llongyfarchiadau mawr Karen.
Anwen Butten yn areithio yn sôn am ei atgofion o gystadlu yn yr Eisteddfod yn blentyn.
Cadeirydd Emlyn Davies yn cyflwyno Anwen Butten, Llywydd
Sara Lewis, Mydroilyn yw enillydd Rose Bowl i’r cystadleuydd mwyaf addawol dan 12 yn yr Adran Gerdd.
Trystan Bryn yn cloi’r cystadleuaeth Llefaru 12-16 oed.
Unawd Bechgyn fydd nesaf ac yna Araith y Llywydd. Anwen Butten ac yna’r Seremoni Cadeirio.
Llongyfarchiadau Karen Owen 👏👏👏
Seremoni Y Fedal Ryddiaith.
Enillydd y Fedal Ryddiaith: Karen Owen, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
Un a fu’n byw ac yn gweithio yn Llanbedr Pont Steffan wrth gwrs, gyda chwmni Golwg.
Llongyfarchiadau, Karen.
Unawd Cerdd Dant sydd ar y llwyfan nawr.
Gwawr Taylor yw’r delynores.