Dydd Llun yr Eisteddfod

Dilynwch yr hanes drwy gydol y dydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.

20:52

Mae 3 yn ymddangos ar y llwyfan yng nghystadleuarth yn Unawd Gymraeg a’r cyntaf i gystadlu yw Gwynne Jones yn canu ‘Gwynfyd’. 

20:50

Canlyniad Canu Emyn dan 21 oed:

1. Trystan Bryn Evans

2. Alwena Mair Owen

3. Ela Mablen Griffiths Jones

20:43

image-22

Yn cloi’r pedwar a fu’n cystadlu am Gwpan Sialens Parhaol Edward ac Annie Morgan ynghyd â £100 yn yr Unawd Sioe Gerdd mae Lowri Elen Jones yn canu ‘Ar ei bedd’.

20:37

image-21

Y nesaf i gystadlu yn yr Unawd Sioe Gerdd yw Heledd Bessant yn canu Pan edrychaf i. 

20:33

Yr ail i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Sioe Gerdd yw Ffion Thomas yn canu Rwy’n dy weld yn sefyll allan o’r Sioe Gerdd Anne. 

20:28

Harri Evans yn agor cystadleuaeth yr Unawd allan o Sioe Gerdd yn canu Eryr Pengwern. 

20:15

Mae 3 wedi dod i’r llwyfan yng nghystadleuaeth y Canu Emyn dan 21 oed. Swydd Pat Jones yw beirniadu’r gystadleuaeth hon. 

20:07

Canlyniad y Ddeuawd dan 19:

1. Ela a Nanw Griffiths Jones

2. Alwena a Gwennan Owen

19:52

Canlyniad yr Unawd ar unrhyw offeryn cerdd heblaw’r piano:

1. Alwena Mair Owen

2. Leah Merrerid Jenkins

3. Malen Jenkins

Y gystadleuaeth nesaf yw’r Unawd Cerdd 12-19 oed gyda Gwawr Taylor yn cyfeilio ac Eleri Roberts yn beirniadu. 

19:46

Canlyniad nesa’r dydd yw’r gystadleuaeth Llefaru darn o’r Ysgrythur:

1. Meleri Morgan

2. Gwion Bowen