Dydd Llun yr Eisteddfod

Dilynwch yr hanes drwy gydol y dydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.

22:13

Canlyniad Unawd Gymraeg

1. Ffion Thomas

2. Gwyn Jones

3. Barry Powell

21:47

Wrth nesáu at y terfyn, y gystadleuaeth nesaf yw’r Alaw Werin dros 19 oed. 

Gofynion y gystadleuaeth yw canu un, dwy neud fwy o alawon na chymer mwy na 5 munud. 

21:32

Dim Deuawdwyr dros 19 oed felly fydd 3 yn ymddangos ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Gân Gelf neu Lieder gyda Emyr Wynne Jones yn beirniadu. 

21:28

Canlyniad Unawd Cerdd Dant 12-19 oed:

1. Ela Mablen Griffiths Jones

2. Gwennan Lloyd Owen

3. Trystan Bryn Evans

21:26

Canlyniad Unawd Sioe Gerdd:

1. Lowri Elen Jones, Llanbed

2. Ffion Thomas, Crymych

3. Heledd Bessant, Mydroilyn

Gillian Thomas
Gillian Thomas

Arbennig. Llongyfarchiadau mawr i Lowri Elen. Wedi mwynhau. A da iawn Ifan Meredith yn weithgar ac ymroddgar bob tro..

Gillian Thomas
Gillian Thomas

A Diolch Dorian Jones am dy arweiniad cryno a hwylus x

21:20

image-31

I gloi’r gystadleuaeth Darn Dramatig neu Fonolog Agored mae Ela Mablen Griffiths Jones yn perfformio ‘Heb Law Mam’. 

21:14

Y nesaf i gystadlu yn y Darn Dramatig neu Fonolog Agored mae Gwion Bowen yn perfformio ‘Tafliad Carreg’. 

21:09

I agor cystadleuaeth y Darn Dramatig neu Fonolog Agored mae Swyn Tomos yn perfformio ‘Tân’ gan Heiddwen Tomos.

21:01

Yn cloi’r gystadleuaeth Unawd Gymraeg mae Barry Powell. 

20:57

Y nesaf i gystadlu yn yr Unawd Gymraeg mae Ffion Thomas.