Dydd Llun yr Eisteddfod

Dilynwch yr hanes drwy gydol y dydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.

21:14

Y nesaf i gystadlu yn y Darn Dramatig neu Fonolog Agored mae Gwion Bowen yn perfformio ‘Tafliad Carreg’. 

21:09

I agor cystadleuaeth y Darn Dramatig neu Fonolog Agored mae Swyn Tomos yn perfformio ‘Tân’ gan Heiddwen Tomos.

21:01

Yn cloi’r gystadleuaeth Unawd Gymraeg mae Barry Powell. 

20:57

Y nesaf i gystadlu yn yr Unawd Gymraeg mae Ffion Thomas. 

20:52

Mae 3 yn ymddangos ar y llwyfan yng nghystadleuarth yn Unawd Gymraeg a’r cyntaf i gystadlu yw Gwynne Jones yn canu ‘Gwynfyd’. 

20:50

Canlyniad Canu Emyn dan 21 oed:

1. Trystan Bryn Evans

2. Alwena Mair Owen

3. Ela Mablen Griffiths Jones

20:43

image-22

Yn cloi’r pedwar a fu’n cystadlu am Gwpan Sialens Parhaol Edward ac Annie Morgan ynghyd â £100 yn yr Unawd Sioe Gerdd mae Lowri Elen Jones yn canu ‘Ar ei bedd’.

20:37

image-21

Y nesaf i gystadlu yn yr Unawd Sioe Gerdd yw Heledd Bessant yn canu Pan edrychaf i. 

20:33

Yr ail i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Sioe Gerdd yw Ffion Thomas yn canu Rwy’n dy weld yn sefyll allan o’r Sioe Gerdd Anne. 

20:28

Harri Evans yn agor cystadleuaeth yr Unawd allan o Sioe Gerdd yn canu Eryr Pengwern.