Arbennig. Llongyfarchiadau mawr i Lowri Elen. Wedi mwynhau. A da iawn Ifan Meredith yn weithgar ac ymroddgar bob tro..
Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.
Cystadleuydd olaf Eisteddfod Llanbed 2024 yw Heledd Bessant yn canu yng nghystadleuaeth yr Her Unawd dros 21 oed.
Un o gyfeilyddion yr Eisteddfod yw Rhiannon Pritchard. Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith gwerthfawr drwy gydol y penwythnos.
Canlyniad diweddaraf: Darn Dramatig neu Fonolog agored:
1. Ela Mablen Griffiths Jones
2.Swyn Tomos
3. Gwion Bowen
Ymlaen at y ddwy gystadleuaeth olaf sef y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed a’r Her Unawd dros 21 oed. Bydd y ddwy yma yn cyd-redeg gyda thri yn cystadlu yn y ddwy gystadleuaeth.
Y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed:
– Meleri Morgan
– Heledd Besant
– Carol Davies
Her Unawd dros 21 oed
– Barry Powell
– Heledd Besant
– Ffion Thomas
Ni newydd ddechrau ar y ddwy gystadleuaeth olaf sef yr Y Brif Gystadleuaeth Lefaru deos 21 a Her Unawd dros 21.
Canlyniad Unawd Gymraeg
1. Ffion Thomas
2. Gwyn Jones
3. Barry Powell
Wrth nesáu at y terfyn, y gystadleuaeth nesaf yw’r Alaw Werin dros 19 oed.
Gofynion y gystadleuaeth yw canu un, dwy neud fwy o alawon na chymer mwy na 5 munud.
Dim Deuawdwyr dros 19 oed felly fydd 3 yn ymddangos ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Gân Gelf neu Lieder gyda Emyr Wynne Jones yn beirniadu.
Canlyniad Unawd Cerdd Dant 12-19 oed:
1. Ela Mablen Griffiths Jones
2. Gwennan Lloyd Owen
3. Trystan Bryn Evans
Canlyniad Unawd Sioe Gerdd:
1. Lowri Elen Jones, Llanbed
2. Ffion Thomas, Crymych
3. Heledd Bessant, Mydroilyn
A Diolch Dorian Jones am dy arweiniad cryno a hwylus x