Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

22:05

Rhiannon a Chôr Bytholwyrdd yn ennill cystadleuaeth y Côr gyda Corisma yn ail a Pam Lai yn drydydd.

21:58

Yr olaf ac yn cloi’r cystadlu heddi yw Alwena Owen yn canu ar y piano. 

21:57

Yr ail i gystadlu yw Côr Pam Lai? 

21:46

Cystadleuwyr cyntaf cystadleuaeth Sgen ti Dalent dros 16 oed yw deuawd gan Lowri ac Elan. 

21:33

Braf gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ac yn mwynhau’r corau. 

21:32

Côr Pam Lai yw’r olaf i gystadlu. 

21:30

Côr Bytholwyrdd yn cystadlu.

21:11

Côr Corisma yn agor cystadleuaeth y Côr. 

21:11

Cychwyn ar y corau: Corisma yn agor y gystadleuaeth i gorau dros 16 mewn nifer. 

20:59

Owain Davies yn cystadlu yn y Cyflwyniad Digri.