Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

15:24

Canlyniadau cynraf y diwrnod

Unawd 6-9

1. Mari

2. Elan

3. Matilda

4. Bethan

5. Hanna

Llefaru 6-9

1. Mari

2. Bethan

3. Tryfan

4. Hanna

5. Martha

15:05

Dyma’r 3 y bu’n cystadlu yn y llefaru dan 6 oed. 

Nesaf fydd y cystadlaethau oedran 9-12. 

14:59

Yr unawdwyr dan 6 a’r gynulleidfa yn cyd-ganu Hei Mistar Urdd ar ddiwedd y gystadleuaeth!

Y gystadleuaeth nesaf ar y llwyfan fydd y Llefaru dan 6 oed ar ôl canlyniad yr Unawd 6-9 oed. 

14:43

Eifion yn agor y cystadlu ar yr Unawd dan 6. 

14:42

image-1

Mae’r cliw yn ei law!

Dyfalwch am bwy mae Eifion yn cany amdano yn yr Unawd dan 6 oed?

14:38

Y 5 a fu’n cystadlu yn y Llefaru 6-9 oed. 
Ymlaen nesaf at yr Unawd dan 6 oed!

14:28

Tryfan, y cyntaf i gystadlu yn y Llefaru 6-9 oed.  

14:25

Dyma’r 7 a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth gyntaf y dydd, Unawd 6-9 oed. 
Ymlaen at y llefaru 6-9 oed nesaf…

14:03

Matilda yn dechrau ar y cystadlu. Unawd 6-9 oed i blant cyfyngedig. 

13:54

IMG_4571

Alwena a Gwennan Owen, Llanllwni yn canu cân agoriadol yr Eisteddfod.