Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

14:28

Tryfan, y cyntaf i gystadlu yn y Llefaru 6-9 oed.  

14:25

Dyma’r 7 a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth gyntaf y dydd, Unawd 6-9 oed. 
Ymlaen at y llefaru 6-9 oed nesaf…

14:03

Matilda yn dechrau ar y cystadlu. Unawd 6-9 oed i blant cyfyngedig. 

13:54

IMG_4571

Alwena a Gwennan Owen, Llanllwni yn canu cân agoriadol yr Eisteddfod. 

13:50

Emlyn yn agor yr Eisteddfod. 

13:49

Dorian Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod a Emlyn Davies, Cadeirydd y pwyllgor gwaith, yn agor yr Eisteddfod.
Soniwyd am golli Goronwy Evans, cyn ysgrifennydd cyffredinol yr Eisteddfod, fu farw Mawrth eleni ac hefyd Geraint Rees. 

13:28

IMG_4566
IMG_4567

Cwpannau / Tlysau yn barod am y cystadlu heddi. 
Pob lwc i bawb.