Dysgwr o ardal Llambed yn rhannu ei diddordebau â ni

Joio Byw ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae!

Dorette Stevens dw i a dw i’n Dysgu Cymraeg. Dw i’n mynychu dau ddosbarth Canolradd – un yng Nghanolfan Creuddyn a’r llall ar lein. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i.

Pan o’n i’n ifanc, ro’n i’n arfer meddwl bod hen ferched yn ddiflas achos eu bod nhw’n hoffi garddio. Roedd fy mam yn arfer dweud, ‘Edrychwch ar fy rhosod, maen nhw’n hyfryd, on’d ydyn nhw?’ Ond ro’n i’n arfer meddwl eu bod nhw’n ddiflas, nid cyffrous! Ro’n i’n arfer hoffi beicio gyda fy ffrindiau, nofio yn y môr neu lyn a chwarae cuddio ar fferm. Hefyd ro’n i’n hoffi sglefrio a sgïo ar y mynydd. Ro’n i’n hoffi popeth cyffrous!

Ond heddiw, hen ferch dw i a dyw hynny ddim yn fy mhoeni. Y dyddiau hyn dw i wrth fy modd yn garddio. Mae gardd fawr gyda fi a llawer o rosod hyfryd. On’d yw’r peth yn ddoniol?

Fodd bynnag dw i’n dal i hoffi nofio yn y môr neu lyn. Yr haf hwn es i i Wlad Pwyl a nofiais i yn y môr Baltig a llawer o lynnoedd gwahanol. Hyfryd! Dydw i ddim yn sglefrio na sgïo achos dw i’n meddwl ei bod hi’n rhy peryglus i fy hen esgyrn. Dw i’n hapus iawn i fod yn hen, achos mae bywyd yn heddychlon iawn.

Ond rhaid i fi ddweud wrthoch chi. Dydw i ddim yn rhy hen i farchogaeth fy ngheffyl yng nghefn gwlad. Dw i’n reidio Poppy ac mae hynny’n braf.  Dyw e ddim yn beryglus. Ydw, dw i’n caru fy mywyd!

Dweud eich dweud