Edrych ymlaen i Rali Ceredigion 2024

Dyn lleol yn cystadlu yn erbyn y gorau yn Ewrop.

gan Terry Davies

Meirion Evans / Jonathan Jackson – Toyota Yaris Rally2

John Dalton

Ioan Lloyd

9C0Z4119cr

Y penwythnos nesaf bydd Meirion Evans o Harford yn cymryd rhan yn Rali JDS Machinery Ceredigion a leolir yn Aberystwyth.

Mae Meirion yn fab i Melvyn a Ann Evans, Derwen Garage, Harford. Fe fydd e yn cystadlu mewn Toyota GR Yaris, un o dri char fydd Melvyn Evans Motorsport yn rhedeg yn y gystadleuaeth.  Hefyd mae Toyota GR Yaris i Chris Ingram a Volkswagen Polo R5 i Kevin Davies.

Mae’r rali eleni yn rhan o’r Bencampwriaeth Rali Ewrop a bydd cystadleuwyr yn dod mor bell â Seland Newydd, Gwlad Pwyl, Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Eidal, Iwerddon, Yr Almaen, Y Deyrnas Unedig ac wrth gwrs o Gymru.

Bydd na lawer iawn o Gymru yn cystadlu ac yn eu plith bydd John Dalton, Talsarn; Wayne”tar” Jones, Llanybydder; Osian Pryce, Machynlleth; James Williams, Castell Newydd Emlyn; Ioan Lloyd, Llandysul a Jason Pritchard, Llanfair ym Muallt.

Cynhelir y rali dros dri niwrnod a bydd y cyfanswn o filltiroedd tua 144. Bydd y cymal cyntaf ar hyd strydoedd Aberyswyth nos Wener a bydd dau o’r cymalau yn ardal Brechfa ar ddydd Sadwrn ac o fewn tafliad carreg i’r prif noddwyr JDS Machinery, New Inn, Pencader.

Dymunwn pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan.

Dweud eich dweud