Effaith Storm Darragh ar yr ardal

Cyflwynwch luniau a gwybodaeth o’r hyn sy’n drafferthus wedi’r gwynt mawr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_3260-1

Llun gan Heiddwen Tomos.

Neges gan Heiddwen Tomos,

“Dŵr dwfwn ar y ffordd – Cwmann i Lanbed o Bencarreg. Osgowch. Ceir ddim yn gallu mynd trwyddo.”

17:17

IMG_3272

Llun gan Claire Mayes.

IMG_3271

Llun gan Carloe Elizabeth Ballard.

Y Teifi wedi gorlifo ei glannau gyda cheffyl mewn dŵr yng Nghwmann a defaid yn cilio o’r dŵr yn Llanbed.

17:04

Gweithwyr Gwasanaethau Coed Llanbed a National Grid wedi cael diwrnod prysur iawn heddiw, a nawr yn clyrio’r hewl ger Ysgol Carreg Hirfaen.

15:18

Mae holl oedfaon Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Teifi wedi eu gohirio yfory oherwydd y tywydd.

15:14

IMG_3268

Coeden arall yn rhwystro’r ffordd yng Nghwmann.  Newydd ddymchwel.

14:34

Bu rhannau o Lanybydder heb drydan heddiw.

13:29

IMG_3266

Llun gan Huw Jenkins.

Hewl ar gau rhwng Gorsgoch a Chribyn ger Pantyffynnon.

13:24

IMG_3264

Archfarchnad Co-op Llanbed wedi cau gan osod y system atal llifogydd yn ei le.

13:19

98f26a79-0179-4c8b-a486

Llun gan Moc Lewis.

Coeden anferth wedi cwympo yng Nghwmann gan gau’r hewl ger Teifi Castle.

11:30

Fan wedi ei barcio yng nghanol dŵr ym Maes Parcio’r Co-op Llanbed.

11:28

Maes Parcio’r Co-op yn Llanbed.