Neges gan Heiddwen Tomos,
“Dŵr dwfwn ar y ffordd – Cwmann i Lanbed o Bencarreg. Osgowch. Ceir ddim yn gallu mynd trwyddo.”
Gwasanaethau yn parhau i hael eu heffeithio yfory,
“Bydd Canolfan Lles a Pwll Nofio Llambed yn parhau ar gau ‘fory (dydd Sul) ar gyfer diogelwch staff a defnyddywr. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. Cadwch yn saff!”
Mae’n mynd i fod yn wythnos fawr yn Ysgol Bro Pedr gyda sioe Addams Family, a gwnaed cyhoeddiad prynhawn ma ynglyn â’r ymarfer yfory,
“Rydym wedi penderfynu dileu ymarfer bore fory tan 12.30. Mi fyddwn yn asesu sefyllfa’r tywydd eto yn y bore”.
Ni chynhelir Ffair Nadolig yn Neuadd Gorsgoch yfory. Daeth cyhoeddiad gan swyddogion y neuadd brynhawn ma,
“Mae’r Ffair Nadolig wedi ei chanslo yfory.
Mae’r ffyrdd i mewn i Gorsgoch yn ddrwg a does dim trydan yn y neuadd a ddim yn debygol o fod yn ôl tan brynhawn yfory.
Ymddiheuriadau i bawb.”
Y Teifi wedi gorlifo ei glannau gyda cheffyl mewn dŵr yng Nghwmann a defaid yn cilio o’r dŵr yn Llanbed.
Gweithwyr Gwasanaethau Coed Llanbed a National Grid wedi cael diwrnod prysur iawn heddiw, a nawr yn clyrio’r hewl ger Ysgol Carreg Hirfaen.
Mae holl oedfaon Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Teifi wedi eu gohirio yfory oherwydd y tywydd.
Coeden arall yn rhwystro’r ffordd yng Nghwmann. Newydd ddymchwel.
Bu rhannau o Lanybydder heb drydan heddiw.
Hewl ar gau rhwng Gorsgoch a Chribyn ger Pantyffynnon.
Archfarchnad Co-op Llanbed wedi cau gan osod y system atal llifogydd yn ei le.