Eglwys San Pedr Llanybydder – Gwasanaeth Diolchgarwch 2024

Côr Meibion Caerfyrddin yn arwain y noson o ddiolch.

gan ELERI THOMAS

Cynigiwyd cyfle i aelodau Eglwys San Pedr, Llanybydder a’r gymuned ehangach i ddweud “Diolch” yn ystod y Gwasanaeth Diolchgarwch a gynhaliwyd ar Nos Sul y 29ain o Fedi 2024, yn yr Eglwys.

Mynegwyd hyn yn bennaf, drwy gân.  Llwyddodd Côr Meibion Caerfyrddin (Cadeirydd: Haydn Lloyd) swyno’r gynulleidfa wrth ymroi i ystod eang o ganeuon dan gyfarwyddyd eu harweinydd  ysbrydioledig, y Parchedig Wyn Maskell, a ddaeth â’r gerddoriaeth yn fyw a dwyster cysylltiad â’r gynulleidfa’n amlwg.  Tywysodd y gyfeilyddes, Heather Williams, y dyrfa i arall-fyd, gan arddangos deinameg wych (gyda chymorth Sylvia Thomas).

Ymysg y caneuon oedd:

I Bob un sydd yn ffyddlon: y gân gyntaf i’w chanu gan y Côr, dechreuad cryf a phendant.

Dwy Law yn Erfyn: Emyn adnabyddus Thomas Rowland Hughes (1903-49) wedi’i chanu’n deimladwy ac yn deyrnged i un o aelodau’r côr a oedd, yn drist, wedi marw’n ddiweddar.

Un o ffefrynnau’r gynulleidfa.

O Gwalia! – O Gymru! Wedi’i chanu ag angerdd.

Canu cynulleidfaol o’r Llyfr Emynau Caneuon Ffydd

130- Pob Peth, ymhell ac agos

847- Am Dy ddirgel ymgnawdoliad, diolch i Ti (Tôn – Ar Hyd y Nos)

Daeth yr Hybarch Eileen Davies ymlaen i arwain holl yn bresennol, mewn gweddi gan bwysleisio’r pwysigrwydd o ddweud diolch, yn enwedig yn ystod amser y cynhaeaf pan allwn ddiolch i Dduw am yr holl bobl sy’n paratoi ein bwyd.

Hefyd i estyn allan i’r llai ffodus sy’n dioddef ac yn newynog.

Cofiwyd am bawb ynghlwm â’r gwrthdaro’r Dwyrain Canol.  Hefyd y rhai a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i’r ffwrnais ddur chwyth olaf ddiffodd yng ngweithfeydd Tata, Port Talbot ar y 30.09.2024 gan ddod â’r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.

Darllenwyd o’r Gair gan Heather Jones ac Avril Jones.

Mwynhawyd y lluniaeth ysgafn, wedi’r gyngerdd, gan aelodau’r Côr cyn iddynt gofleidio’r tywydd garw unwaith eto, ar eu taith yn ôl i Gaerfyrddin.

Addurnwyd yr Eglwys yn chwaethus ar gyfer y cynhaeaf (gweler y lluniau) a chasglwyd nwyddau ar gyfer Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan.

Noson gofiadwy, yn sicr. Llwyddodd y canu bendigedig, addurniadau’r eglwys a’r canhwyllau, y fynedfa drwy’r fynwent daclus a’r croeso cynnes, greu naws unigryw ac yn gyfle arbennig i ddiolch i Dduw am ffrwyth Ei greadigaeth ac am Ei gariad sy’n dragywydd.

“A phan ddaw’r bore, a’r wawr yn ole

Wrth ymyl fy ngwely i,

Mae’r weddi o hyd yn fiwsig i gyd

Mi wn er na chlywaf i.”

Diolch i bawb a oedd wedi helpu mewn unrhyw ffordd.  Gwerthfawrogwyd hyn yn enfawr. 

Elw er budd Eglwys San Pedr Llanybydder.

Dweud eich dweud